Rydym yma i bobl sy'n eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd sy'n ei gwneud yn anodd byw yn ddiogel.
Mae anghenion pawb yn wahanol. Weithiau mae'n ymwneud â dod o hyd i le diogel i fyw. Weithiau mae'n fater o ddatblygu'r sgiliau a'r hyder i adeiladu dyfodol mwy disglair.
Beth bynnag yw'r sefyllfa, rydym yn datblygu a theilwra ein gwybodaeth a'n profiad i gydweddu â'u hamgylchiadau unigol. Am dros ddeng mlynedd ar hugain, rydym wedi rhoi oedolion a theuluoedd y cymorth sydd angen arnynt i adeiladu'r bywyd cadarnhaol y maent yn ei haeddu.
Ein gwerthoedd
Hyblyg
Mae amgylchiadau pawb yn wahanol, felly rydym yn ymdrin â nhw yn wahanol hefyd
Teg
Mae cydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn
Ysbrydoledig
Mae ein ffocws bob amser ar y potensial
Y gwahaniaeth a wnawn
Rydym yn cefnogi pobl i newid eu bywydau eu hunain er gwell. Yn 2021-22 llwyddasom i…
- Cefnogi 4000+ o bobl
- Rhoi lloches i bobl yn ein 152 o unedau ledled Cymru
- Helpu 680 o bobl i gael mynediad at gyllid gan y llywodraeth
- Addysgu 5978 o blant am berthnasau iach
- Croesawu dros 1000 o ddynion i’n Siediau Dynion

Hyfforddiant
Rydym yn cynnig hyfforddiant i nifer o sefydliadau ac unigolion mewn sawl maes gwahanol, gan roi i bobl y wybodaeth a'r sgiliau i adeiladu a gwella eu hymarfer gwaith. Mae pob un o'n cyrsiau wedi cael eu mapio i Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac rydym yn cynnig achrediad opsiynol hefyd.
Cyflogadwyedd
Mae pawb yn haeddu'r hawl i weithio os ydynt am wneud hynny, ond gwyddom nad yw'n bob tro mor hawdd â hynny. Felly rydym yn cynnig cymorth un-i-un, gan roi i bobl mynediad at addysg, hyfforddiant, cyfleoedd i wirfoddoli a chyflogaeth, fel y gallant adeiladu dyfodol cadarnhaol iddynt eu hunain.

Newyddion a Sylwadau
-
Yn Stori, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y bobl rydym yn eu cefnogi. Rydym yn gofyn am adborth gan fod hyn yn ein helpu i wella’r
-
Hoffech chi helpu i lunio’r ffordd rydym ni’n gweithio? Hoffech chi ddefnyddio eich profiadau eich hun i helpu eraill? Hoffech chi rannu eich syniadau a’ch safbwyntiau? Yna ymunwch â’n Grŵp
-
Mae’n bleser gennym rannu Adroddiad Blynyddol Stori 2022-2023, sy’n cyfleu ein taith yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, gan dynnu sylw at ein cyflawniadau, ein cynnydd a’n hymrwymiad diwyro
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Gall Byw Heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer:
- unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig
- pobl sy’n adnabod rhywun sydd angen cymorth.Er enghraifft, ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
- ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol
Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy’n brofiadol iawn ac wedi’u hyfforddi’n llawn.
Noddwyr a phartneriaid





