Arweinyddiaeth a’r Bwrdd

Y prif beth sy’n ein hysgogi a’n huno yw’r gwahaniaeth rydym yn gallu ei wneud i bobl sy’n wynebu rhai o’u cyfnodau anoddaf.

  • Ein Tîm Gweithredol

    • Andrew Belcher

      Prif Weithredwr

      Fel Prif Swyddog Gweithredol mae Andrew yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo gwerthoedd Stori trwy weithio'n gynhyrchiol gyda chydweithwyr, cleientiaid, tenantiaid, cymunedau lleol, partneriaid a chyllidwyr i gyflawni cenhadaeth Stori. Mae Andrew yn angerddol am ddatblygu a darparu gwasanaethau tai, cymorth, cyflogaeth, dysgu a hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan alluogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, teimlo'n ddiogel, yn hyderus ac yn annibynnol.

    • Julie Philips

      Cyllid

      Mae Julie yn goruchwylio ein cyllid, gan sicrhau bod ein sylfeini ariannol yn gadarn a chynaliadwy fel y gallwn gyflawni ein haddewidion i’r bobl rydym yn eu cefnogi.

    • Andrew Jones

      Datblygiad

      Mae Andrew yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau ein bod ni’n tyfu – yn y ffyrdd cywir. Mae’n goruchwylio marchnata a chyfathrebu yn ogystal â gwireddu ein huchelgeisiau masnachol hefyd, gan helpu i ddarparu ein gwasanaethau i’r rheini y mae arnynt eu hangen.

    • Sharon Smith

      Gogledd Cymru

      Mae Sharon yn goruchwylio ein gwaith yng Ngogledd Cymru – a hefyd ein Cynllun Strategol Rheoli Tai. Mae hi’n sicrhau ansawdd uchel cyson ym mhob agwedd o’n gwaith ac yn ymdrin â datblygiad hanfodol a darpariaeth rheng flaen ein gwasanaethau i bobl y mae arnynt eu hangen.

    • Necia Lewis

      De Cymru

      Mae Necia yn ymdrin â datblygiad hanfodol a darpariaeth rheng flaen ein gwasanaethau i bobl y mae arnynt eu hangen, gan sicrhau ansawdd uchel cyson ym mhob agwedd o’n gwaith.

  • Ein Bwrdd Rheoli

    • Hugh Irwin

      Mae ein Cadeirydd

      Hugh, yn arbenigwr amhrisiadwy yn ein sector, ac yn gallu cynnig safbwyntiau hynod o berthnasol sy’n helpu gyrru ein penderfyniadau.

    • Christian Davies

      Aelod Bwrdd

      Arbenigwr cyfreithiol.

    • Suki Collins

      Arbenigwr Adnoddau Dynol a hyfforddwr.

    • Sophie Hallett

      Aelod Bwrdd

      Mae Sophie yn uwch ddarlithydd ac ymchwilydd.

    • Mathew Morgan

      Aelod Bwrdd

      Mae Mathew yn angerddol am wneud gwahaniaeth ac mae'n dod â 15 mlynedd o brofiad o weithio mewn swyddi rheoli ac arwain ar draws Cymru a De-orllewin Lloegr.

    • Hannah Pudner

      Aelod Bwrdd

      Mae Hannah yn ymgynghorydd datblygu sefydliadol.

    • Allyn Pritchard

      Aelod Bwrdd

      Ar hyn o bryd, mae Allyn yn cael ei gyflogi fel Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Cynlluniedig sy'n ymdrin â phob agwedd ar ddatgarboneiddio ac ôl-osod stoc tai, yr holl raglenni gwaith cylchol, a chyflwyno swyddogaethau monitro a gwerthuso mewnol ac allanol ar gyfer y grŵp.

    • Kelly Isaac

      Aelod Bwrdd

      Mae gan Kelly dros 20 mlynedd o brofiad ym maes tai cymdeithasol a digartrefedd. Mae Kelly wedi dal swyddi mewn Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a Chymdeithasau Tai.

    • Aelod Bwrdd

      Mae Clive yn ysgrifennydd cwmni cymwysedig ac mae wedi arbenigo mewn cyllid, cyllid a rheolaeth trysorlys i'r sector tai cymdeithasol dros y 35 mlynedd diwethaf.

    • Aelod Bwrdd

      Mae Lynn yn Syrfëwr Siartredig gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu, a threuliwyd y mwyafrif ohono yn y sector datblygu.