Amdanom ni
Mewn byd delfrydol, dylai fod gan bawb gartref lle gallant ffynnu. Ond nid yw’r byd yn ddelfrydol a dyna pam yr ydym yma.
Dechreuodd y sefydliad fel Hafan Cymru fwy na deng mlynedd ar hugain yn ôl er mwyn helpu pobl a oedd yn byw gan ofni cam-drin domestig. Heddiw, rydym yma i helpu unrhyw un sydd mewn sefyllfa sy’n ei wneud yn anodd byw yn ddiogel gartref. Gall hyn fod oherwydd problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig neu heriau eraill. Rydym yn cynnig lle, cymorth a sgiliau ar gyfer yr adegau hynny pan mae pobl yn barod i adeiladu dyfodol mwy disglair a mwy diogel iddynt eu hunain.
Daethom yn Stori yn 2023 oherwydd roeddem yn teimlo ei fod yn dweud mwy amdanom ni – rydym yn cefnogi pobl i newid eu stori eu hunain er gwell, mewn sawl ffordd gadarnhaol. Dim ond y dechrau yw cychwyn newydd gyda’r cymorth cywir.
Ein Gwerthoedd
Rydym yn trin pawb â charedigrwydd, fel unigolyn, gan gynnig mynediad hafal at gyfleoedd. Rydym yn ymfalchïo yn null creadigol, hyblyg y gall pobl ddibynnu arno. Ac wrth wneud hynny, gobeithiwn ysbrydoli’r rheini o’n cwmpas ac i rannu ein hymarferion gydag eraill i’w helpu nhw i greu canlyniadau cadarnhaol, hefyd.
Hyblyg – mae amgylchiadau pawb yn wahanol, felly rydym yn ymdrin â nhw yn wahanol hefyd.
Teg – mae cydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.
Ysbrydoledig – mae ein ffocws bob amser ar y potensial.