Cefnogi Pobl

Cefais help gan Stori i ymgartrefu yn fy nghartref fy hun a chefnogaeth bob cam o’r ffordd. Roeddwn i mewn lle tywyll, ond rydw i wedi gweithio trwy’r iselder a nawr yn teimlo fy mod i’n gallu camu ymlaen yn hyderus. Rydw i’n gwybod bod rhywun yna os bydd angen cymorth arnaf i.

Mae sefyllfa pawb yn wahanol – ac felly mae ein cymorth i bob person rydym yn gweithio gyda nhw hefyd yn wahanol. Dechreuwn gydag anghenion seicolegol ac emosiynol rhywun ac yn gweithio’n agos gyda’n gilydd, fel y byddant yn teimlo eu bod yn gallu gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau eu hunain.

Ein nod yw bod pawb yn gallu byw mor annibynnol ag yr hoffent ac i fod yn rhan o’r gymuned o’u cwmpas. Darperir ein gwasanaeth ‘cofleidiol’ mewn partneriaeth â’r gwasanaethau statudol a gwirfoddol, fel bod pob person yn teimlo y gallant ofalu am eu sefyllfa eu hunain, gyda chymorth wrth law os oes ei angen arnynt.