Cyflogadwyedd

Mae pawb yn haeddu’r hawl i weithio os ydynt am wneud hynny, ond gwyddom nad yw’n bob tro mor hawdd â hynny. Felly rydym yn cynnig cymorth un-i-un, gan roi i bobl mynediad at addysg, hyfforddiant, cyfleoedd i wirfoddoli a chyflogaeth, fel y gallant adeiladu dyfodol cadarnhaol iddynt eu hunain.

Mae gennym dimau ar draws Cymru sy’n gallu helpu, yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a’ch amgylchiadau.

Llywodraeth Cymru – Y Gwasanaeth Di-waith

Rydym yn falch o allu cyflwyno Gwasanaeth Di-waith Lhywodraeth Cymru drwy ein partneriaeth Positive Futures gyda Case UK. Yn gweithredu ar draws rhanbarth Cwm Taf (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr), mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer:

  • Pobl 25 oed a throsodd: sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod o dros 12 mis.
  • Pobl rhwng 16 a 24 oed: na ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.

I gael gwybod a allwn eich helpu, llenwch y ffurflen isod.

Cysylltwch yn awr