35 Mlynedd o Stori: Diwrnod Effaith Arbennig a Dathliad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Ar y 19 Medi, daethom at ein gilydd yn ein Siop Un Stop yn Abertawe sydd newydd ei hadnewyddu i ddathlu 35 mlynedd o waith effeithiol yn ystod ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ymunodd partneriaid, comisiynwyr, rhanddeiliaid ac aelodau o’r gymuned gyda ni wrth edrych yn ôl ar ein taith a’n cyflawniadau.

Croeso Arbennig

Dechreuodd y diwrnod gydag anerchiad o groeso gan Hugh Irwin, Cadeirydd Bwrdd Stori, a osododd naws y digwyddiad. Dilynwyd hyn gan neges fideo arbennig gan Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Yn ei hanerchiad, canmolodd waith hanfodol Stori yn cefnogi unigolion ledled Cymru sydd wedi profi cam-drin domestig, trwy ein gwasanaethau cymorth a’n rôl fel cymdeithas dai arbenigol. Tynnodd sylw at nodau cyffredin Stori a Llywodraeth Cymru o ddileu cam-drin domestig a gwneud Cymru’n lle diogel i bawb. Tynnodd Jane Hutt sylw hefyd at Brosiect Sbectrwm, menter wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd wedi hyrwyddo perthnasoedd iach ymhlith plant a phobl ifanc mewn ysgolion ledled Cymru dros y degawd diwethaf.

Dathlu’r Gorffennol, Adeiladu ar gyfer y Dyfodol

Yna aeth Andrew Belcher, Prif Weithredwr Stori, ar y llwyfan i edrych yn ôl ar daith 35 mlynedd Stori. Soniodd am sut mae’r sefydliad wedi tyfu o ddechreuadau gostyngedig yng Nghaerfyrddin i fod yn sefydliad amrywiol sy’n rhychwantu Cymru gyfan. Tynnodd Andrew sylw at yr heriau y mae Stori wedi’u goresgyn, y cerrig milltir allweddol y mae wedi’u cyflawni, a’r effaith sylweddol y mae ein sefydliad wedi’i chael ar gymunedau ledled Cymru. Yn ogystal â bwrw trem ar ein hanes, edrychodd Andrew ymlaen at y dyfodol, gan ailddatgan ymrwymiadau Stori, ac amlinellu blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Chwyddo Straeon Goroeswyr

Uchafbwynt y diwrnod oedd clywed gan y rhai yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan waith Stori. Rhannodd Amanda, goroeswr cam-drin domestig, ei stori bwerus am wydnwch ac adferiad, yn atgoffâd teimladwy o’r profiadau bywyd go iawn sy’n sail i ymdrechion Stori. Fe wnaeth tystiolaeth anhysbys arall, “Llais Sophie,” daflu goleuni ar yr heriau cymhleth sy’n wynebu goroeswyr. Amlygodd y straeon personol hyn y dewrder sydd ei angen i oresgyn y fath adfyd a phwysigrwydd hanfodol cefnogaeth barhaus. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r rhai a rannodd eu straeon gyda’r fath ddewrder.

Cipolwg ar ein Gwaith

Cafodd mynychwyr gyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiynau trafod rhyngweithiol, oedd yn archwilio’r realiti cymhleth sy’n wynebu gweithwyr cymorth a goroeswyr fel ei gilydd. Roedd “Hwyaid mewn Rhes: Diwrnod ym Mywyd Gweithiwr Cymorth” yn cynnig mewnwelediad i’r heriau dyddiol sy’n wynebu’r rhai sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni i ddarparu cefnogaeth ddiwyro. Roedd “Pam Na Wnaiff Hi Adael?” yn archwilio’r rhwystrau emosiynol, seicolegol ac ariannol sy’n ei gwneud mor anodd i oroeswyr adael sefyllfaoedd camdriniol.  A rhoddodd “Cawl, Corryn, a Stelcian” gipolwg ar sut mae disgyblion ysgolion cynradd yn dysgu am berthnasoedd iach. Cafodd y sesiynau hyn dderbyniad da iawn, a hoffem ddiolch i aelodau tîm Stori am eu hwyluso mewn modd mor arbenigol.

Ein CCB

Yn y prynhawn trodd y digwyddiad yn Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB). Roedd y sesiwn bwysig hon yn caniatáu i aelodau adolygu cyflawniadau’r flwyddyn ddiwethaf, trafod yr heriau sydd o’n blaenau, a gosod nodau ar gyfer y dyfodol. Rhoddodd y CCB gyfle i arweinyddion Stori amlinellu cyfeiriad strategol y sefydliad, gan sicrhau bod cynlluniau’r dyfodol yn parhau i gyd-fynd â’i genhadaeth ac anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Roedd Diwrnod Effaith a CCB Stori yn fwy na digwyddiadau yn unig – roeddent hefyd yn atgoffâd pwerus o’r cryfder a geir mewn cymuned, pwysigrwydd chwyddo lleisiau goroeswyr, a’r ymdrechion parhaus sydd eu hangen i greu newid parhaol. Gyda’n gilydd, fe wnaethom ailddatgan ein hymrwymiad i barhau i adeiladu Cymru fwy diogel a chefnogol i bawb.

Meddai Prif Weithredwr Stori, Andrew Belcher:

“Roedden ni’n falch iawn o groesawu cleientiaid, sefydliadau partner, comisiynwyr, cydweithwyr, aelodau’r bwrdd a chynrychiolwyr Cymorth, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymorth i Fenywod Cymru i’n diwrnod effaith a’n CCB.  Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol; gan rannu effaith ein gwaith hyd yma, ein llwyddiannau, ond hefyd yn rhoi cyfle i drafod datblygiad, partneriaeth ac arloesedd yn y dyfodol.  Diolch yn fawr iawn i bawb a allodd ymuno â ni; roedd y newid o CCB traddodiadol, i ddiwrnod yn dathlu effaith Stori ar draws Cymru (gyda’r CCB ffurfiol fel rhan o’r diwrnod hwnnw) yn llwyddiant mawr ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar hynny yn y blynyddoedd i ddod.”