Mae ‘dibwyllo’ yn derm rydyn ni’n ei glywed yn eithaf aml y dyddiau hyn ac nid yw ei ystyr yn cael ei ddeall yn llawn bob tro. Rhannodd Hannah Wenden, ein Swyddog Hyfforddi, yr arweiniad hwn ar beth yw dibwyllo, ei effeithiau, a beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n credu bod eich partner yn eich dibwyllo chi.
Beth yw Dibwyllo?
Mae dibwyllo o fewn perthynas yw pan fydd person treisgar yn ceisio rheoli ei bartner gan wyrdroi ei ymdeimlad o realaeth. Mae’n fath o gam-drin seicolegol y mae’r camdriniwr yn ei ddefnyddio i ennill pŵer a rheolaeth dros ei bartner.
Beth yw effeithiau dibwyllo?
Mae’r person treisgar yn creu realaeth gamarweiniol sy’n gwneud i’w bartner i amau ei farn a’i bwyll. Bydd y dioddefwr yn dechrau teimlo yn ansicr o’i fyd, efallai byddant yn dechrau amau ei hunan, ei atgofion, ei hunanwerth. Mae’n gadael y dioddefwr yn ddryslyd ac yn teimlo fel ei fod yn mynd o’i gof ac mae hyn, yn ei dro, yn gwneud y dioddefwr hyd yn oed yn fwy dibynnol ar ei bartner treisgar. Mae’r rhain i gyd, yn ei wneud yn anodd iawn i’r dioddefwr i adael y perthynas.
Pethau gall y person sy’n dibwyllo eu dweud wrthych chi:
- “Doedd hynny ddim yn digwydd / Mae gen ti gof gwael” – Efallai bydd rhywun yn gwneud neu ddweud rhywbeth sarhaus ac wedyn yn gwadu bod hyn wedi digwydd, neu wyrdroi’r ffeithiau o’r hyn a ddigwyddodd. Er enghraifft os oedd eich partner yn eich gwthio chi yn erbyn y wal ac rydych chi’n siarad amdano yn ddiweddarach, efallai byddant yn gwyrdroi’r stori a dweud eich bod chi wedi baglu a’i fod wedi eich helpu chi a dyna oedd yn eich achosi chi i gwympo i mewn i’r wal.
- “Rwyt ti’n rhy sensitif / Gan bwyll / Rwyt ti’n gorymateb” – Pan mae dioddefwyr yn ceisio esbonio eu bod nhw wedi’u brifo neu’n teimlo’n ofidus, bydd y camdriniwyr yn dweud wrthynt eu bod nhw’n gwneud môr a mynydd o’r sefyllfa. Mae’n lleihau ac yn diystyru teimladau’r dioddefwyr ac yn gwneud iddynt deimlo’n ffôl.
- “Rwyt ti’n wallgof – ac mae pobl eraill yn meddwl yr un peth hefyd” – Efallai bydd y camdriniwr yn dweud celwydd wrthych chi ac yn dweud wrthych chi bod pobl eraill hefyd yn meddwl yr un peth amdanoch chi. Efallai bod y bobl hyn erioed wedi dweud unrhyw beth negyddol amdanoch chi, ond bydd y person sy’n eich dibwyllo chi yn gwneud pob ymdrech i wneud ichi gredu eu bod nhw wedi. Efallai bydd y camdriniwr hefyd yn dweud wrth bobl eraill eich bod chi’n wallgof neu’n emosiynol ansefydlog er mwyn taflu amheuaeth arnoch chi os ydych chi’n ceisio gofyn am help.
- “Mae’n flin gen i dy fod ti’n meddwl fy mod i wedi dy frifo di” – Gan amlaf bydd camdrinwyr yn gwadu (neu ddim yn gweld o gwbl) eu bod nhw’n gwneud unrhyw beth o’i le. Mae’r ffug ymddiheuriad hwn yn ffordd i’r camdriniwr gwadu unrhyw ddrygioni ac yn gadael y dioddefwr yn gofyn i’w hun os ydynt wedi bod yn gorymateb. Yn y diwedd, mae’r dioddefwr yn dibynnu ar ddehongliad y camdriniwr o ddigwyddiadau ac yn derbyn y dehongliad hynny fel y realaeth.
- “Dylet ti wybod sut byddwn i’n ymateb / Pe na fyddet ti wedi gwneud *hyn*, byddaf i ddim wedi dy drin di fel ‘na” – Drwy symud y bai i’r dioddefwyr, mae’r dioddefwyr yn teimlo’n euog am sefyllfa pan na wnaethon nhw unrhyw beth yn anghywir.
Beth allaf ei wneud os ydw i’n credu bod fy mhartner yn fy nibwyllo?
Os ydych chi’n credu eich bod chi’n cael eich cam-drin yn seicolegol fel hyn, mae’n wych eich bod chi wedi cydnabod y gamdriniaeth! Mae yna obaith, nid oes rhaid ichi aros mewn perthynas afiach a chamdriniol.
Mae yna gamau allwch chi eu cymryd i ddiogelu eich hunan:
- Cadwch y dystiolaeth: Oherwydd gall dibwyllo achosi ichi amau eich hunan, ceisiwch gadw nodyn o ddigwyddiadau mewn dyddiadur sy’n cynnwys dyddiad, amser a manylion o’r hyn a ddigwyddodd. Cadwch sgyrsiau testun. Gallwch edrych drostynt yn ddiweddarach ac atgoffa eich hun i beidio ag amau eich hun.
- Siaradwch ag aelod o’r teulu neu ffrind dibynadwy. Bydd yn help i gael safbwynt rhywun arall i helpu gwneud y sefyllfa yn gliriach i chi.
- Gosodwch ffiniau clir. Mae sefydlu ffiniau yn dangos yn glir yr hyn rydych chi’n barod i dderbyn o fewn perthynas. Os bydd hyn yn digwydd eto gallwch ddweud yn bwyllog rhywbeth fel “Os wyt ti’n galw fi’n ‘wallgof’, byddaf yn gadael yr ystafell”, neu “Mae’n ymddangos fel ein bod ni’n cofio pethau’n wahanol, felly gadewch inni symud ymlaen.”
- Gorffennwch y Perthynas. Mae’n bosib mai hon fydd yr unig ffordd i atal y gamdriniaeth. Os ydych yn meddwl am orffen perthynas treisgar, gofynnwch am help a chymorth gan rywun sy’n deall natur cam-drin domestig.
If you believe that you’re being psychologically abused in this way, it’s amazing that you’ve recognised the abuse! There is hope, you don’t have to stay in an unhealthy and abusive relationship.
Yn olaf, cofiwch ….