Yn dilyn proses dendro ddiweddar, rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod ni wedi cael ein dewis i ddarparu gwasanaeth newydd a ariennir gan ‘Grant Cymorth Tai’ yn Nhorfaen. Bydd hyn yn golygu ein bod yn ail-ddylunio gwasanaeth cymorth lle bo’r angen blaenorol, i ddatblygu gwasanaeth cymorth newydd, hyblyg, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cynnwys cymorth lle bo’r angen, sesiynau galw heibio, cymorth grŵp, gweithdai dysgu/meithrin sgiliau a chefnogaeth cyfoedion. Byddwn yn canolbwyntio ar rymuso pawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth; yn cefnogi pobl i deimlo’n ddiogel, ac yn datblygu eu hunan-barch a’u hyder i ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.
Fel rhan o’r newid hwn, pleser fydd croesawu sawl cydweithiwr newydd a fydd yn ymuno â thîm Stori yn Nhorfaen – ac edrychwn ymlaen at wneud hynny ym mis Ebrill!
Bydd y prosiect yn ategu ein hamrywiaeth bresennol o wasanaethau cymorth arbenigol i deuluoedd ac unigolion ledled Torfaen. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys Cymorth Lle Bo’r Angen i Deuluoedd sy’n Agored i Niwed, Cymorth Lle Bo’r Angen i Ddioddefwyr Cam-drin Domestig Gwrywaidd, Cymorth Lle Bo’r Angen LHDTC+, a’n Prosiect Llesiant Plant a Phobl Ifanc.
Er ein bod yn ymwybodol o’r heriau cyllido sy’n wynebu’r Sector Cymorth Tai, rydym wedi ymrwymo i ddelio â’r heriau hyn mewn modd creadigol ac arloesol, gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson. Ein nod yw darparu cymorth ystyrlon ac ymarferol sy’n blaenoriaethu llesiant y bobl rydym yn eu cefnogi, gan eu grymuso i ffynnu yn annibynnol yn eu cymuned leol.