Byddaf i ar goll heb y gefnogaeth

Helo, fy enw i yw Alex. Cefais fy achub gan Hafan Cymru yn Nhachwedd 2020, ac wedi byw yn eu Prosiect Pobl Ifanc ers hynny.

Gyda’u cymorth, rydw i’n teimlo bod fy iechyd meddwl wedi gwella’n sylweddol.

Nawr rydw i’n gallu rheoli fy arian yn well diolch i’r cymorth cyllido rydw i wedi’i dderbyn. Rydw i wedi gallu ehangu fy nghylch cymdeithasol ac wedi gwneud ffrindiau da o fewn y prosiect. Rydw i’n teimlo fel fy mod i’n gallu bod yn agored ac yn onest gyda’r gweithwyr cymorth yn y prosiect, a byddan nhw wastad yna i ddarparu cymorth pan fydd angen.

Rydw i nawr yn teimlo, drwy’r cymorth rydw i wedi’i dderbyn gan Hafan Cymru, fy mod i’n gallu rheoli fy nghartref fy hunan a fy nhenantiaeth.

Rydw i wir yn teimlo byddaf i ar goll heb y cymorth rydw i wedi’i dderbyn yn ystod fy nghyfnod yn y prosiect.

Diolch.