Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022

Hoffen ni ddiolch i bawb a ddaeth ac a gefnogodd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Abergele yr wythnos diwethaf!

Yn y digwyddiad anhygoel, roedd ein noddwr, Ruth Dodsworth, mor ddewr wrth rannu ei stori ein hun am fod yn oroeswr cam-drin domestig, ac yn ein diolch ni am y gwaith anhygoel rydyn ni’n ei wneud. Hefyd clywsom ni gan Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru, a addunedodd i barhau i gefnogi Cymdeithasau fel ni. Hefyd rhoddodd y digwyddiad y cyfle i’n Prif Weithredwr, Sian Morgan, ac Aelodau’r Bwrdd i ddiolch i’n timoedd staff arbennig am y gwaith ardderchog maen nhw’n ei wneud i gefnogi pobl. Ond uchafbwynt y diwrnod oedd cael gwrando ar y bobl ifanc rydyn ni’n eu cefnogi wrth iddyn nhw rannu eu straeon ysbrydoledig a’r teithiau maen nhw wedi dechrau tuag at fywyd newydd.

 

Gwiliwch fideo Ruth isod: