7Rhagfyr 2021, Pensarn…) Mae sefydliad cymorth tai a chamdriniaeth ddomestig blaenllaw, Hafan Cymru, wrth ei fodd i groesawu Cyflwynydd Teledu a Newyddiadurwr sydd wedi ei henwebi ar gyfer BAFTA Cymru, Ruth Dodsworth, fel ei Noddwr newydd. Bydd Ruth yn helpu hybu gwaith hanfodol Hafan Cymru wrth gefnogi pobl sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig.
Mae rôl Ruth yn angenrheidiol. Fel Noddwr Hafan Cymru, bydd Ruth yn helpu annog dioddefwyr eraill i ddod ymlaen i chwilio am gyngor a chymorth i greu dyfodol gwell, mwy diogel. Mae hyn yn allweddol i waith Hafan Cymru ac mae profiad personol Ruth yn chwarae rhan bwysig yn y bartneriaeth.
Dywedodd Sian Morgan, Prif Weithredwr, Hafan Cymru:
Rydyn ni wrth ein bodd i weithio gyda Ruth. Fel rhywun sydd wir yn deall bod unrhyw un yn gallu cael ei hunan mewn sefyllfa o gamdriniaeth ddomestig, ni allem ofyn am berson gwell i weithio ochr yn ochr â ni.
Mae gonestrwydd Ruth ynglŷn â’i sefyllfa bersonol wedi ysbrydoli nifer o bobl na fyddent efallai wedi fel arall, i godi eu llais. Mae’n hanfodol ein bod ni’n helpu pobl deall camdriniaeth ddomestig yn well: yr ysgogwyr a’r effaith y mae’n ei gael ar unigolion a theuluoedd sy’n byw trwy’r profiad – a’r cymorth y gall pawb ei gael, hefyd. Mae Ruth yn teimlo mor angerddol â ni am wella’r ymwybyddiaeth a dealltwriaeth hon.
Dywedodd Ruth Dodsworth, Noddwr newydd Hafan Cymru:
Rydw i mor falch i weithio gyda Hafan Cymru i helpu gwella ymwybyddiaeth o gamdriniaeth ddomestig. Drwy brofiad personol, rydw i’n deall pa mor unig gall hyn fod – mae’n angenrheidiol bod unrhyw un yn y sefyllfa hon yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau hunain..
Am fwy o wybodaeth am Hafan Cymru, ymwelwch â www.hafancymru.co.uk. Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn poeni am gamdriniaeth ddomestig, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 am gyngor. I gysylltu â’r heddlu, ffoniwch y rhif ‘101’ di-argyfwng neu ffoniwch ‘999’ mewn argyfwng. Mae hwn yn Wasanaeth Datrysiad Distaw sy’n eich galluogi chi i alw 999 ac os ydych chi’n rhy ofnus i siarad neu greu sŵn, i wasgu ‘55’ pan ofynnir i chi.