
Yma yn Stori, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i hyrwyddo cynaliadwyedd o fewn ein sefydliad. Rydym wedi ymroi i fabwysiadu arferion mwy ecogyfeillgar a lleihau ein hôl troed amgylcheddol.
Un cam pwysig rydym wedi’i gymryd yw sefydlu ein Gweithgor Cynaliadwyedd. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys unigolion ymroddedig o bob rhan o Stori sy’n dod at ei gilydd i archwilio ffyrdd o wreiddio cynaliadwyedd wrth wraidd ein gweithrediadau. Er bod y grŵp hwn yn dal i fod yn ei gamau cynnar, mae ei aelodau eisoes wedi dechrau rhoi newidiadau cadarnhaol ar waith i wella cynaliadwyedd yn Stori.
Enghraifft nodedig o hyn yw sut rydym yn mynd ati i ymdrin ag eitemau gwastraff. Rydym yn sylweddoli bod gwerth hyd yn oed i eitemau gwastraff ac y gellir eu hailbwrpasu. P’un ai drwy eu rhoi neu eu hailgylchu, ein nod yw dargyfeirio eitemau o safleoedd tirlenwi a chyfrannu at gymunedau eraill drwy rannu ein gwarged.
Dyma rai enghreifftiau o’r ffyrdd rydym wedi gwneud hyn:
· Partneru gyda Cartridges4Charity, elusen sy’n ymroi i ailgylchu hen getris peiriannau argraffu i gefnogi’r Against Malaria Foundation. Trwy roi’r cetris hyn, rydym wedi codi arian ar gyfer 32 o Rwydi Gwely Gwrth-Fosgito a fydd yn cael eu dosbarthu gan yr elusen.
· Pan oedd angen i ni glirio un o’n swyddfeydd, buom yn cydweithio ag elusennau lleol i sicrhau nad oedd y dodrefn yn mynd i safle tirlenwi. Cynigiwyd y dodrefn i’n cleientiaid hefyd, gan eu hannog i ailgylchu a rhoi adfywiad i’r eitemau hyn.
· Rydym yn gweithio gydag archfarchnadoedd lleol i ddosbarthu bwyd i’w atal rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac i gefnogi ein cleientiaid yn yr argyfwng costau byw.
· Lle bo modd, rydym yn ceisio bod yn ddi-bapur yn ein swyddfeydd.
Rydym yn cydnabod mai dim ond y cam cyntaf tuag at sicrhau mwy o gynaliadwyedd yw gwella ein hymdrechion ailgylchu. Er mwyn hyrwyddo ein hymdrechion cynaliadwyedd ymhellach, rydym yn ymwybodol o’r angen am newidiadau sylweddol yn ein harferion gweithredol. Enghraifft o hyn yw’r rôl weithredol sy’n cael ei chymryd gan Verity Hayes, Rheolwr Gweithrediadau Abertawe, sy’n arwain y gad wrth ymgorffori egwyddorion Economi Gylchol yn ein dull sefydliadol ar ôl iddi gwblhau Rhaglen Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CIEC) ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Meddai Verity: “Ar ôl mynychu’r cwrs CEIC 10 mis gallaf ddweud â sicrwydd pa mor hanfodol yw’r Economi Gylchol i wella cynaliadwyedd o fewn y sefydliad. Mae mynychu’r cwrs a dysgu am economi gylchol wedi gwneud i mi edrych ar a gwerthuso llawer o brosesau Stori a sut y gallwn ni fod yn fwy cynaliadwy.”
Fel sefydliad, edrychwn ymlaen at barhau i ddod o hyd i ffyrdd o ymgorffori arferion economi gylchol yn y ffordd rydym yn gweithio a chefnogi aelodau eraill o’n tîm i fynychu’r rhaglen CEIC.
Ar Ddiwrnod Cynaliadwyedd y Byd eleni, rydym yn falch i ailddatgan ein hymroddiad i gynaliadwyedd a’n hymrwymiad i gael effaith gadarnhaol ar ein sefydliad a’r byd yn gyffredinol.