Dathlu degawd o hyrwyddo perthnasoedd iach mewn ysgolion ledled Cymru: Prosiect Sbectrwm

Ar 3 Hydref 2024, daethom ynghyd i ddathlu ymrwymiad ar y cyd i ddiogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru. Roedd y digwyddiad, gyda nawdd hael Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn gynulliad o siaradwyr dylanwadol, partneriaid cymunedol, ac yn bwysicaf oll, criw rhyfeddol o blant ysgol – a’u hegni a’u brwdfrydedd nhw oedd uchafbwynt yr achlysur.

Roedd y dathliad yn canolbwyntio ar achos sy’n agos at ein calonnau: atal cam-drin domestig a chreu amgylchedd diogel a meithringar ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Daethpwyd â’r genhadaeth feirniadol hon yn fyw trwy areithiau a chyflwyniadau a gweithgareddau trafod, gan arwain at ymdeimlad o undod a chyd-gyfrifoldeb.

Siaradwyr Nodedig yn Taflu Goleuni ar y Diwrnod

Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfres o anerchiadau pwerus gan siaradwyr nodedig, pob un ohonynt wedi chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo diogelwch a llesiant plant ac wrth ddileu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru.

Agorwyd y diwrnod gan Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghymru, gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi dysgwyr i gydnabod perthnasoedd iach a diogel drwy’r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE). Dywed hefyd bod ‘Sbectrwm yn hanfodol er mwyn cyflawni’r nodau hyn.’

Dilynwyd hi gan Nicole Jacobs, Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr, a amlygodd bwysigrwydd addysgu sut y dylai perthnasoedd fod mewn ysgolion, a sut y gellir dysgu pethau gan Gymru.

Yna siaradodd Johanna Robinson, Cynghorydd Cenedlaethol VAWDASV Cymru, am effaith VAWDASV i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Yn ystod y prynhawn, buom yn ffodus o glywed gan Ruth Taylor, Newyddiadurwr a Noddwr Stori, a rannodd effaith ymddygiad rheolaeth drwy orfodaeth arni hi a’i phlant; a’n siaradwr olaf oedd yr Athro EJ Renold, a roddodd gyflwyniad grymus ar bwysigrwydd gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc.

 

Y Plant oedd Uchafbwynt y Digwyddiad  

Fodd bynnag, cafwyd uchafbwynt gwirioneddol y diwrnod pan ddaeth dosbarth o blant ar y llwyfan. Roedd eu perfformiad yn deyrnged deimladwy i bwysigrwydd deall perthnasoedd iach, gwytnwch a diogelwch. 

Fe wnaethant rannu cerdd oedd yn darlunio effaith Prosiect Sbectrwm yn eu bywydau. Roedd eu cyflwyniad yn ymgorffori hanfod neges y diwrnod: sef bod yn rhaid i atal ac addysg ddechrau’n gynnar, trwy addysgu pobl ifanc a’u grymuso i godi llais yn erbyn trais a hyrwyddo perthnasoedd iach. 

Meddai Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw, ‘Rwy’n gallu gweld yr effaith mae Stori wedi’i chael ar ein disgyblion. Mae’r gwersi wedi bod yn feddylgar, yn ddifyr ac yn hwyliog tra hefyd ac yn bwysicaf oll, yn rhannu’r elfen ddifrifol ar berthnasoedd diogel. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i’n hathrawon dosbarth wrando ac arsylwi ar ein disgyblion yn ystod y gweithgareddau hyn a mynd i’r afael â chamsyniadau a allai fod ganddyn nhw am berthnasoedd diogel wedi hynny.’ 

Rydym yn diolch o galon i’r siaradwyr, y plant a’r partneriaid a wnaeth y diwrnod hwn yn ddathliad gwirioneddol o obaith a phosibilrwydd. Gyda’n gilydd, rydym yn creu Cymru fwy diogel a mwy cefnogol i’n plant a’n pobl ifanc – un lle nad yw cam-drin domestig yn cael ei oddef mwyach, a lle gall pob plentyn ffynnu. 

Am ragor o wybodaeth ar Brosiect Sbectrwm, ewch i – www.spectrumproject.co.uk