Dyfarnwyd Cyllid Mawr i Stori i Gefnogi Addysg Cydberthnasau a Rhywioldeb (ACRh) mewn Ysgolion

Rydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi cael cyllid am 3 blynedd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni Prosiect Addysg Cwtch, prosiect Cymru gyfan sy’n cefnogi datblygu perthnasoedd iach a pharchus mewn ysgolion ledled Cymru.

Bydd y prosiect uchelgeisiol hwn yn cefnogi athrawon, arweinwyr a chymunedau ysgol gyfan i ddarparu Addysg Cydberthnasau a Rhywioldeb (ACRh) o ansawdd uchel yn hyderus, fel y gall pob plentyn a pherson ifanc adeiladu perthnasoedd cadarnhaol sydd wedi’u gwreiddio mewn empathi, ymddiriedaeth a dealltwriaeth.

Mae Prosiect Addysg Cwtch yn adeiladu ar dros ddau ddegawd o brofiad Stori o gyflwyno mentrau dibynadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i blant a phobl ifanc mewn ysgolion ledled Cymru. Gyda hanes cryf o roi’r offer a’r hyder sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol, mae Stori yn parhau i gefnogi ysgolion i greu amgylcheddau diogel a chynhwysol i ddysgwyr ffynnu.

Fel rhan o’r prosiect, bydd Prosiect Cwtch Stori yn:

  • Cefnogi athrawon i deimlo’n hyderus wrth gyflwyno Addysg Cydberthnasau a Rhywioldeb ar draws y cwricwlwm
  • Cefnogi llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr i ddeall beth yw Addysg Cydberthnasau a Rhywioldeb, a pham ei fod yn bwysig
  • Sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn parhau i fod yn ganolog i sut mae Addysg Cydberthnasau a Rhywioldeb yn cael ei llunio a’i chyflwyno

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Stori, Sharon Smith,

Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ariannu Prosiect Cwtch i gefnogi ysgolion ledled Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, ysgolion, teuluoedd a chymunedau i wneud Addysg Cydberthnasau a Rhywioldeb yn rhywbeth sy’n teimlo’n berthnasol, yn gynhwysol ac yn grymuso pob dysgwr.

Gallwch ddysgu mwy ar storicymru.org.uk neu anfon neges atom ar AddysgCwtch@storicymru.org.uk / media@storicymru.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.