Yn Stori, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y bobl rydym yn eu cefnogi. Rydym yn gofyn am adborth gan fod hyn yn ein helpu i wella’r gwasanaethau a ddarparwn. Yn nigwyddiadau cleientiaid Fuel4Life y llynedd, soniwyd wrthym am 3 prif fater ac aethom ati i weithio arnynt. Gallwch weld beth sydd gan ein cleientiaid a’n tenantiaid i’w ddweud isod:
“Rwy’n cael trafferth defnyddio WhatsApp gan mai ail iaith yw Saesneg i mi.”
Rydym wrthi’n cynhyrchu canllaw ar sut i ddefnyddio nodweddion cyfieithu WhatsApp. Bydd hyn yn helpu pobl a fyddai’n hoffi i’w sgyrsiau gael eu cyfieithu i iaith wahanol. Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o gyfathrebu â chleientiaid y mae Saesneg yn ail iaith iddynt.
“Byddai’n dda cael gwybod os nad oes unrhyw un ar gael yn y swyddfa.”
Lle mae ein swyddfeydd yng nghartrefi ein cleientiaid, rydym wedi gwella ein prosesau cyfathrebu gan sicrhau bod argaeledd staff yn cael ei gyfathrebu’n rheolaidd, hysbysiadau’n cael eu rhoi ar ddrysau swyddfa, a manylion cyswllt y tîm yn cael eu dosbarthu i bawb er mwyn sicrhau eu bod yn dal i allu cael gafael ynom hyd pan nad ydym yn y swyddfa.
“Mae angen rhewgelloedd oergell mwy ar deuluoedd mwy a pheiriannau golchi gydag opsiwn golchi cyflym.”
Rydym wedi adolygu ein polisïau, ac wrth ailosod offer, rydym wedi ymrwymo i:
- Ymdrechu i brynu offer yn uniongyrchol gan y gwneuthurwr yn unig, a dewis offer sydd wedi’i wneud i bara’n hirach;
- Sicrhau bod capasiti ein peiriannau golchi yn ein heiddo mwy yn cyd-fynd ag anghenion y teuluoedd sy’n byw ynddynt;
- Sicrhau bod gan yr holl beiriannau golchi rydym yn eu prynu ‘opsiwn golchi cyflym’; ac
- Adolygu oedran ein hoffer yn barhaus, a sgôr ynni ein nwyddau gwyn.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, siaradwch â’ch Gweithiwr Cymorth, Swyddog Tai, neu cysylltwch drwy ddefnyddio ein tudalen gyswllt.