Hafan Cymru yn ailfrandio i Stori

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod ni, o heddiw ymlaen, yn Stori. Bwriad gyda ni wrth i ni ddechrau ein pennod newydd

Dros 30 mlynedd yn ôl, crëwyd y sefydliad i ddarparu lloches i fenywod sy’n dianc rhag cam-drin domestig. Ers hynny, rydym wedi datblygu ac ehangu ein gwasanaethau i gynnwys cymorth i atal digartrefedd, darparu hyfforddiant i ymarferwyr yn y sector, addysgu plant am berthnasau iach i atal cam-drin domestig, a chynnal siediau i alluogi dynion i gefnogi ei gilydd ‘ysgwydd wrth ysgwydd’.

Rydym wedi bod yn galluogi a grymuso pobl i newid eu straeon drwy ein cymorth, hyfforddiant, a phrosiectau. Felly, rydym yn Stori: dechreuwch bennod newydd.

Bydd Stori yn cynrychioli’r bennod newydd o bwy ydym fel busnes. Rydym yn galluogi pobl i newid eu bywydau drwy dai, gwasanaethau cymorth, sesiynau ysgol a hyfforddiant. Mae yna i ddangos sut yr ydym yn grymuso pobl ar daith eu bywyd i fyw yn annibynnol.

Dim ond y dechrau yw hyn. Wrth inni symud ymlaen, byddwn yn parhau i ddatblygu a darparu gwasanaethau o safon uchel fel Stori.  Ac mae pob un ohonom yn teimlo’n gyffrous am y newid hwn.

— Sian Morgan, Prif Weithredwr