Rydym yn edrych ymlaen at y cyrsiau hyfforddi sydd i ddod y bydd ein Gweithwyr Cymorth yn eu mynychu. Byddwn yn gallu parhau i wella gwybodaeth a dealltwriaeth ein tîm am gam-drin domestig a’r pecynnau cymorth a thechnegau amrywiol sydd ar gael i helpu’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw i gael dyfodol disglair a diogel.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus ein pobl. Os hoffech weithio gyda chyflogwr ardderchog sy’n eich gwerthfawrogi chi, edrychwch ar ein swyddi gwag yma: https://storicymru.org.uk/cy/join-us.
Bydd yr hyfforddiant sydd i ddod yn paratoi ein Gweithwyr Cymorth ymroddedig wrth ddarparu rhaglenni am brofiadau ac anghenion amrywiol; darparu pecyn cymorth i helpu goroeswyr cam drin yn y cartref symud ymlaen yn eu bywydau; a gwella gallu ein timau i ddarparu rhaglenni sy’n cefnogi rhieni.
Necia Lewis, Cyfarwyddydd Gweithrediadau, De