Mae’r gefnogaeth ardderchog rydw I wedi’u derbyn gan Wasanaeth Cymorth i Ddynion sy’n Dioddef Cam-drin Domestig Hafan Cymru wedi bod heb ei ail.
I bwy bynnag fynno wybod,
Rydw i’n teimlo rheidrwydd i ysgrifennu hwn gan fod y proffesiynoldeb, amynedd a chefnogaeth ardderchog rydw i wedi’u derbyn gan Wasanaeth Cymorth i Ddynion sy’n Dioddef Cam-drin Domestig Hafan Cymru wedi bod yn anfesuradwy, diddiwedd a heb ei ail. Yn arbennig mae fy Ngweithiwr Cymorth Cam-drin Domestig wedi bod yn ardderchog imi ac wedi adfer fy ffydd bersonol mewn cymdeithas tra bo eraill wedi fy ngwneud i deimlo’n ddiddefnydd, diwerth ac fel lladd fy hunan. Byddwn i’n mynd mor bell â dweud pe na bae fy ngweithiwr cymorth a Hafan Cymru wedi dod i mewn i fy mywyd pan wnaethon nhw, fwy na thebyg byddwn i ddim yma nawr ac yn gorff marw yn yr Afon Tawe neu o dan fws neu drên.
Rydw i wedi dioddef Cam-drin Domestig a Cham-drin Rhywiol yn amrywio o Reolaeth Ariannol, Rheolaeth Drwy Orfodaeth, Stelcio, Bygwth, Ymddygiad Bygythiol, Ynysu, a Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant – er bod gen i orchymyn cyswllt plentyn gan y llysoedd teulu. Mae fy nghyflawnwr yn parhau i aflonyddu arna i a dylanwadu ar bob system a pharti o bell yn fy erbyn i, a fy nheulu. Pan fyddwch chi wedi dioddef am gyfnod mor hir mewn sawl ffordd wahanol, yn gorfforol, rhywiol, meddyliol, seicolegol ac emosiynol, rydych chi’n brwydro i ddod drwy’r awr nesaf, heb sôn am beth neu sut ydych chi’n mynd i ddod drwy’r diwrnod, yfory, y diwrnod nesaf, neu’r wythnos nesaf. Nid oes gennych chi obaith am y dyfodol.
Rydw i’n ddyn anabl sydd wedi fy amddifadu o fy ngwir hunaniaeth, hyder, hunan-barch a’r gallu i wneud penderfyniadau, oherwydd doeddwn i ddim yn barod i ildio i fy nghyn-wraig a’i syched am reolaeth drwy orfodaeth, a fy nominyddu i a fy mywyd. Yn ystod cyfnod bregus ac yn chwilio am gariad/cymorth ar ôl hyn, neidiais o’r badell ffrio i’r tân wrth imi gael fy swyno gan ail gyflawnwr a gam-fanteisiodd arna i ar ôl imi ymddiried ynddi. Dechreuodd mwy o gamdriniaeth oherwydd nid oedd hi’n gallu derbyn ac ymdopi ag ymddygiad ffiaidd parhaol fy nghyn-wraig a fy ngorffennol dirdynnol.
Byddwn i’n argymell yn gryf Gwasanaethau Cymorth i Ddynion sy’n Dioddef Cam-drin Domestig Hafan Cymru gan nad oes digon o gymorth neu sefydliadau o’r fath yng Nghymru a lle maen nhw’n parhau i fy helpu i geisio ailadeiladu fy mywyd, rydw i’n gobeithio eu bod nhw’n gallu parhau i wneud hyn ar gyfer nifer fawr o ddynion eraill, nid yn unig nawr ond am flynyddoedd i ddod. Cefnogwch y sefydliad hwn a’u galluogi nhw i barhau i wneud y gwaith ardderchog maen nhw’n ei wneud, sy’n achub bywydau. Peidiwch â gadael i ddynion eraill dioddef yn ddistaw, ac ers cyhyd â mi. Yn bendant mae yna stigma yn gysylltiedig â Cham-drin Domestig pan mae’r dioddefwr yn ddyn ac mae’r gamdriniaeth yn cael ei chyflawni gan fenyw.
Does dim ots gen i fod fy llythyr yn cael ei rannu, ond rydw i hefyd yn gobeithio, oherwydd elfennau sensitif a phreifat fy sefyllfa bersonol, fy mod i yn aros yn ddienw wrth imi geisio gwella yn yr ymylon lleiaf, o ddydd i ddydd wrth imi dal i ddioddef un o’r cyfnodau mwyaf dirdynnol na fyddwn i’n ei ddymuno ar unrhyw un, nawr neu yn y dyfodol.
Yr eiddoch yn gywir,
Christian