Mae Hafan Cymru a SafeLives yn falch i gyhoeddi ein bod ni wedi cael ein cydgomisiynu gan lywodraeth Cymru i ddarparu amrywiaeth o hyfforddiant hanfodol ledled Cymru.
Darllennwch ddarn o’r datganiad i’r wasg isod.
Mae Hafan Cymru a SafeLives yn falch i gyhoeddi ein bod ni wedi cael ein cydgomisiynu gan lywodraeth Cymru i ddarparu amrywiaeth o hyfforddiant hanfodol ledled Cymru.
Bob blwyddyn mae dros ddwy filiwn o bobl yn y DU yn dioddef cam-drin domestig. Yng Nghymru yn unig, mae’r nifer o achosion lle mae dioddefwyr cam-drin domestig mewn perygl mawr o niwed difrifol neu lofruddiaeth wedi bod yn codi 10% o flwyddyn i flwyddyn.
Mae llywodraeth Cymru wedi comisiynu ystod o hyfforddiant achrededig i uwchsgilio ac addysgu gweithwyr proffesiynol fel y gallant gydnabod dioddefwyr cam-drin domestig a thrais ar sail rhywedd yn gyflymach; darparu cymorth ymatebol sy’n canolbwyntio ar y person a fydd yn cwrdd ag anghenion dioddefwyr a’u teuluoedd; a mynd i’r afael ag ymddygiad y rheini sy’n cyflawni’r trais a chamdriniaeth.
Bydd partneriaeth Hafan Cymru a SafeLives yn darparu tair rhaglen hyfforddi gan gynnwys yr hyfforddiant achrededig uchel iawn ei barch i gynghorwyr annibynnol ar drais domestig (IDVA), sy’n chwarae rôl hanfodol mewn cefnogi dioddefwyr a’u teuluoedd; a hyfforddiant achrededig i reolwyr sy’n darparu gwasanaethau ar sail rhywedd rheng-flaen.
Bydd y bartneriaeth hefyd yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol aml-asiantaethol gyda phynciau yn cynnwys effaith cam-drin domestig ar blant a phobl ifanc, dioddefwyr gwrywaidd, dioddefwyr LHDT+, stelcian, ac aflonyddu ar y stryd. Bydd y cwrs hwn yn dechrau yn yr hydref ac mae bwcio nawr ar agor
Y bwriad yw i’r hyfforddiant gyrraedd cyfanswm o 2500 o ddysgwyr.
Mae’r datganiad i’r wasg llawn yma.
Mae’r ddau gwrs cyntaf yn agored i’w harchebu nawr. Cliciwch ar y dolenni isod!
Deall Effeithiau Cam-drin Domestig ar docynnau Plant a Phobl Ifanc