
Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi bod ein Prif Weithredwr, Sian Morgan, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022, yng nghategori Arweinydd.
Mae’r wobr yn dathlu menywod anhygoel yng Nghymru ac yn cydnabod eu llwyddiannau ym mhob agwedd o fywyd, o lwyddiannau personol i gyfraniadau eithriadol. Mae’n arddangos yr hyn y mae menywod wedi’i gyflawni, ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Mae Chwarae Teg yn disgrifio llwyddiannau Sian, “Mae Siân Morgan yn gyfrifol am drawsnewid bywydau, mewn cymunedau ledled Cymru, ac yn y sefydliad y mae’n ei arwain, fel Prif Weithredwr Hafan Cymru. Gydag angerdd dros bobl ac yn credu yn yr hyn y gallant ei gyflawni mae hi wedi trawsnewid sefydliad a oedd yn ei chael hi’n anodd, pan ymunodd yn 2016, i’r sefydliad bywiog a gwydn sydd gan Hafan Cymru heddiw. Gan sefydlu diwylliant o dryloywder a didwylledd lle mae barn staff yn cyfrif, mae’n galluogi’r gwasanaeth a’r amddiffyniadau gorau i’r cleientiaid y maent yn eu gwasanaethu.”
Cyhoeddir enillwyr y Wobr o fri hon mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 29 Medi.