Mae Stori’n falch o gael rhannu’r newyddion ei bod wedi sicrhau cyllid drwy Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru. Nod y fenter hon yw gwella effeithlonrwydd ynni eiddo presennol yng Nghymru, gan eu gwneud yn fwy fforddiadwy i’w gwresogi a lleihau allyriadau carbon.
Mae Stori yn bwriadu cydweithio â thenantiaid yn 2024 i roi gwelliannau ar waith, gan ddechrau drwy osod synwyryddion arbenigol mewn cartrefi. Mae’r cyllid yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru ar gyfer allyriadau sero net ac yn cefnogi ymrwymiad Stori i leihau ei hôl troed carbon. Disgwylir i’r ymdrechion hefyd arwain at gartrefi cynhesach a biliau ynni is i denantiaid, gan fynd i’r afael â heriau ariannol yng nghanol yr argyfwng costau byw.
Meddai Rheolwr Tai Stori, Stuart Mander, “Ein nod yw parhau i adeiladu ar y cyfle cyffrous y mae’r cynllun Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn ei roi i ni drwy sicrhau y gallwn ni barhau i wella ac esblygu ein darpariaeth tai am flynyddoedd i ddod.”