Men’s Sheds Cymru Yn Symud i Gartref Newydd

Am dros  wyth mlynedd , rydym wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o daith Siediau Dynion Cymru gan eu bod wedi cefnogi sefydlu Siediau Dynion ledledu Cymru sy’n cael eu mynychu gan gannoedd o Aelodau. Yn ystod y cyfnod hwn mae miloedd o gyfeillgarwch wedi cael eu ffurfio, cymunedau wedi’u creu yn ogystal â nifer o lwyddiannau gan gynnwys Opera Siediau Dynion a ffilm fer a enwebwyd am BAFTA, o’r enw The Nest.

Ddiwedd mis Mai daeth y prosiect Siediau Dynion i ben, ond rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod brand Siediau Dynion Cymru yn cael ei gymryd drosodd gan UKMSA a fydd yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi a datblygu Siediau Dynion yng Nghymru. Gallwch ddarllen y Llythyr llawn ar y cyd gan Stori, Men’s Sheds Cymru and UK Men’s Sheds Association yma

Bydd Stori bob amser o gwmpas i gynnig cefnogaeth ac yn falch iawn o gyflawniadau prosiect Siediau Dynion Cymru ac yn credu y bydd y prosiect yn dal i ffynnu yn y dyfodol.