Mae gennym gyfle cyffrous newydd ar gael o fewn ein Tîm Rheoli Gweithredol. Rydym wedi partneru â Robert Half Talent i recriwtio Cyfarwyddwr Adnoddau newydd.
Bydd y Cyfarwyddwr Adnoddau yn chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi Gweledigaeth a Nodau Strategol y Stori. Ochr yn ochr â goruchwylio cyllid a chyfrifoldebau corfforaethol, mae’r rôl yn cynnwys gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cwmni i Stori Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth strategol mewn Cyllid, Adnoddau Dynol, Llywodraethu a Sicrwydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl ac i gyflwyno’ch cais, ewch i:Director Of Resources job in Carmarthen | Robert Half