O rywle mor dywyll ac oer… i amgylchedd mor garedig a chynnes

Pan ofynnwyd i mi siarad (yn y CCB) am fy mhrofiad gyda Hafan Cymru, neidiais am y cyfle. Roeddwn i mor falch a llawn cyffro i rannu fy mhrofiad gyda’r cwmni anhygoel hwn!

Pan ddechreuodd Hafan Cymru gefnogi fi, roeddwn i’n gysgod o’r person oeddwn i, roeddwn i’n hynod o bryderus, swil a heb unrhyw uchelgais i wella fy hun. Roeddwn i am ddihoeni. Doeddwn i ddim yn credu byddwn i’n gallu bod y person oeddwn i unwaith eto a dydw i ddim. Rydw i nawr deg waith yn gryfach a challach nag oeddwn i’n meddwl oedd yn bosib, hyd yn oed y tu hwnt i fy nisgwyliadau fy hun.

Rydw i’n gwybod yn bendant ni fyddai hyn wedi bod yn bosib o gwbl heb help Hafan. Des i o sefyllfa hynod o dreisgar roeddwn i wedi bod yn gaeth ynddi am nifer o flynyddoedd a phan ddes i allan ohoni o’r diwedd roeddwn i’n barod i wastraffu fy hun i fywyd o gyffuriau ac alcohol, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n werth yr amser na’r effaith i helpu i wella.

Pan fyddwch chi’n dod o rywle mor dywyll ac oer ac yn cael eich croesawu i amgylchedd mor garedig a chynnes, roeddwn i wedi fy nrysu. Yn y sesiwn un i un cyntaf, roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir i ddod yma. Dydw i ddim yn gallu pwysleisio digon pa mor galed mae pob un aelod o staff wedi gweithio bob dydd i adeiladu pob un ohonon ni yn ôl. Roedden nhw’n gwybod y byddai’n cymryd cyhyd ag y bo ei angen, ac yn gweithio mor galed yn ddi-stop i’n hannog ni i wella ein hunain a thrwy gydol y cyfarfodydd i gyd a’r Gyfranogaeth Tenantiaid, dechreuais ddysgu. Gyda Glenis a’i sesiynau Dydd Iau am gydberthnasau iach, rydw i wedi dysgu nad fi oedd yn gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd i mi, a’r arwyddion rhybudd a fydd yn helpu fi i osgoi cael fy nhwyllo unwaith eto. (Dysgais) Sut i gael cydberthynas iach gyda phobl neu waith. Maen nhw wedi rhoi’r offer imi i adeiladu bywyd newydd i fi fy hun – bywyd gallaf i ymfalchïo ynddo!

Yn ddi-baid, mae staff Hafan wedi rhoi cymaint o ofal i bob un o’i phreswylwyr a dydw i ddim yn gallu dweud o fewn ychydig o funudau yn unig pa mor anhygoel maen nhw wedi bod. Mae fel ceisio crynhoi’r ffilm fwyaf anhygoel mewn 2 funud. Dydyn nhw erioed wedi gwneud inni deimlo bod ein problemau yn rhy fach i wrando arnyn nhw neu i weithio arnyn nhw. Rydw i’n dymuno bod unrhyw un sydd wedi dioddef yr hyn rydw i wedi’i ddioddef yn dod o hyd i le fel hwn, lle gallan nhw wella a thyfu gyda help a chymorth ar hyd y ffordd.

Rydw i am ddiolch i Hafan a’r staff am yr offer i gyd y maen nhw wedi rhoi i ni a’r glasbrint i wneud fy hun yn falch! Rydw i’n teimlo’n gryf ac yn annibynnol a dydw i erioed wedi teimlo mor falch o fy hun a’r hyn rydw i wedi’i gyflawni. Pob lwc ar gyfer helpu lot mwy o bobl ar hyd y ffordd!