Roedd Awst 2020 yn un o gyfnodau mwyaf anodd fy mywyd. Gadawais i’r cartref teuluol ac roeddwn i ar goll, heb wybod ble roeddwn i am fod yn fy mywyd. Roedd yn anodd darganfod fy hun ar ôl digwyddiad mor sylweddol.
Y mis Medi dilynol, croesawodd Hafan Cymru fi i’w Prosiect i Fenywod Ifanc. Roeddwn i’n nerfus, ofnus ac yn ansicr o beth oedd i ddod. Roeddwn i wedi adeiladu sawl wal i ddiogelu fy hun, a chawson nhw ei chwalu can Cate a Jo.
Roedden nhw’n annog fi i fynd ymlaen, i wneud bywyd gwell i fi fy hun, ac yn fwy pwysig, roedden nhw’n rhoi cartref diogel a sefydlog imi er mwyn imi allu dilyn y cynllun hwn.
Dros y 18 mis pan oeddwn i’n byw yn y tŷ, roeddwn i’n cwblhau fy arholiadau Lefel A, ac yn gwneud cais i fynd i’r brifysgol. Nawr rydw i’n astudio i fod yn nyrs ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, cyflawniad anhygoel wnes i erioed rhagweld.
Nid oes geiriau i fynegi pa mor ddiolchgar ydw i i’r gweithwyr cymorth a fy nheulu yn y tŷ am eu cymorth di-baid, ac rydw i’n gobeithio gall fy stori i annog eraill i ddilyn yr un llwybr.