Rydym yn hynod o falch i gael cyhoeddi bod ein Prif Weithredwr, Sian Morgan, wedi ennill categori Arweinydd Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022.
Mae’r wobr yn dathlu menywod anhygoel yng Nghymru ac yn cydnabod eu llwyddiannau ym mhob agwedd o fywyd, o gyfraniad eithriadol i bersonol. Mae’n arddangos yr hyn y mae menywod wedi’i gyflawni, ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Wrth ddisgrifio cyflawniadau Sian, dywedodd Chwarae Teg, “Mae Siân Morgan yn gyfrifol am drawsnewid bywydau, mewn cymunedau ledled Cymru, ac yn y sefydliad y mae’n ei arwain, fel Prif Weithredwr Hafan Cymru. Gydag angerdd dros bobl ac yn credu yn yr hyn y gallant ei gyflawni mae hi wedi trawsnewid sefydliad a oedd yn ei chael hi’n anodd, pan ymunodd yn 2016, i’r sefydliad bywiog a gwydn sydd gan Hafan Cymru heddiw. Gan sefydlu diwylliant o dryloywder a didwylledd lle mae barn staff yn cyfrif, mae’n galluogi’r gwasanaeth a’r amddiffyniadau gorau i’r cleientiaid y maent yn eu gwasanaethu.
Rhannwyd y fideo gan Wobrau Womenspire Chwarae Teg 2022
Rydych chi’n ysbrydoliaeth i ni gyd!