Sian Morgan yn siarad yn y Soroptimist Rhyngwladol

Gwahoddwyd Sian Morgan, ein Prif Weithredwr, i siarad yng nghyfarfod y Soroptimyddion Rhyngwladol ym Mhen-y-bont yn ddiweddar.

Wedi’i sefydlu ym 1921, mae Soroptimyddion Rhyngwladol yn symudiad gwirfoddol byd-eang gyda rhwydwaith o tua 72,000 o aelodau mewn 121 o wledydd. Gan eirioli dros hawliau dynol a chydraddoldeb rhywiol, wrth wraidd ei eiriolaeth yw ei waith ar draws saith Ganolfan y Cenhedloedd Unedig (CU), lle mae ein cynrychiolwyr y CU yn sicrhau bod lleisiau menywod a merched yn cael eu clywed. Mae ein haelodaeth yn gweithio ar brosiectau ar lawr gwlad sy’n helpu menywod a merched i gyflawni eu potensial unigol ac ar y cyd, gwireddu uchelgeisiau a chael llais hafal yng nghymunedau ledled y byd.

https://www.soroptimistinternational.org

Yn y cyfarfod, cyflwynodd Sian i nifer o fenywod ysbrydoledig o’r rhanbarth, sydd yn awyddus i helpu Hafan Cymru, wrth inni barhau i gefnogi pobl i fyw bywydau gwell. Roeddent yn awyddus i’n helpu ni i barhau i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru ar lefel gweinidogol.

Siaradais am daith Hafan Cymru a’r ffordd rydym wedi amrywiaethu dros y blynyddoedd i weithio gyda phobl sydd angen cymorth oherwydd Cam-drin yn y cartref / Trais yn y cartref, heriau iechyd meddwl, ayb.

Sian Morgan, Prif Weithredwr

Derbyniwyd sgwrs Sian yn dda iawn, gyda llawer o gwestiynau o’r gynulleidfa.

Hoffem ddiolch i Soroptimyddion Rhyngwladol am ei rhodd garedig tuag at ein rhaglen Cyfranogiad Tenantiaid.