Stori Cleientiaid a Thenantiaid yn Bod yn Greadigol gyda Chystadleuaeth y Pasg

I ddathlu’r Pasg, fe wnaethom herio ein cleientiaid a’n tenantiaid i fod yn greadigol am gyfle i ennill Hamper Pasg blasus. Yn Stori, rydyn ni’n credu bod bod yn greadigol a threulio amser yn yr awyr agored yn ffordd wych o wella ein lles. Felly, fe wnaethom annog oedolion a phobl ifanc dros 14 oed i wneud y gorau o heulwen y gwanwyn ac archwilio eu tirwedd leol i dynnu llun wedi’i ysbrydoli gan y gwanwyn. Anogwyd ein cleientiaid iau a thenantiaid hefyd i gymryd rhan trwy arddangos eu doniau artistig trwy greu llun ar thema’r Pasg.

Ar ôl cyfnod heriol yn dewis yr enillwyr o blith y cynigion gwych, hoffem estyn llongyfarchiadau mawr i’n henillwyr, S* a enillodd ein cystadleuaeth 14+ gyda’u llun hyfryd o Bwll Pysgodfa Eisteddfa Cricieth, a’n enillydd person ifanc, T* , a wnaeth argraff arnom gyda’i darlun lliwgar yn cynnwys Cwningen Pasg a llawer o Wyau Pasg!

Hoffem fynegi ein diolch i’r holl artistiaid ifanc dawnus a ffotograffwyr amatur addawol a gymerodd ran – mae eich creadigrwydd wedi ein rhyfeddu yn fawr!

Enillydd Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 14+

Enillydd Cystadleuaeth Arlunio dan 13 oed