Stori yn ehangu gwasanaethau cymorth tai yn Nhorfaen gyda Menter Newydd wedi’i hariannu gan GCT

Rydym yn falch o gyhoeddi, yn dilyn proses dendro ddiweddar, ein bod wedi cael ein dewis i ddarparu gwasanaeth newydd sydd wedi’i ariannu gan ‘Grant Cymorth Tai’ yn Nhorfaen.

Bydd y gwasanaeth llety â chymorth ar gael i unigolion sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, gan gynnig cefnogaeth, gwybodaeth ac arweiniad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i helpu i atal a lliniaru digartrefedd.

Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn ategu’r ystod bresennol o gymorth wedi’i ariannu gan GCT y mae Stori eisoes yn ei darparu yn Nhorfaen. Rydym yn edrych ymlaen at ehangu rhagor ar y cymorth yr ydym yn ei gynnig i’r gymuned leol, lle rydym wedi sefydlu amrywiaeth eang o wasanaethau a gweithgareddau, gan gynnwys Cymorth Lle Bo’r Angen, Cymorth i Blant a Phobl Ifanc, Grŵp Coffi LHDTC+, Grŵp Rhieni a Phlant Bach, a Chlwb Celf a Chrefft.

Mae’r mentrau hyn yn cyd-fynd â’n cenhadaeth graidd, sydd nid yn unig i helpu unigolion i fyw’n annibynnol ond hefyd yn eu grymuso i ymgysylltu â’u cymuned leol a dod yn rhan gwbl integredig ohoni.

Fel rhan o ddarparu’r gwasanaeth newydd hwn, rydym hefyd yn falch o groesawu sawl aelod newydd i dîm Stori, ac yn bwriadu recriwtio pobl fedrus leol i ymuno â’n tîm, gan gryfhau rhagor ar ein cysylltiadau â’r gymuned.

“Rydym wrth ein boddau ein bod yn ehangu ein gwasanaethau yn Nhorfaen. Bydd y prosiect newydd hwn yn ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant ein cymorth presennol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Drwy recriwtio’n lleol, rydym nid yn unig yn buddsoddi yn y bobl rydym yn eu cefnogi ond hefyd yn creu cyfleoedd i’r gymuned rydym yn gweithio ynddi.”

Andrew Jones – Cyfarwyddwr Datblygu