Stori Hannah gan Hafan Cymru

Dechreuais weithio i Hafan Cymru tair blynedd yn ôl. Cyn ymuno â Hafan roeddwn i’n dysgu Hanes am sawl blwyddyn. Dros fy ngyrfa dysgu, symudodd fy ffocws ac egni o gariad at ddysgu Hanes, i awydd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy fy ngwaith. Symudais i ddysgu plant sy’n agored i niwed nad oeddent yn gallu mynychu ysgol am resymau amrywiol.

Daeth yn genhadaeth imi brofi iddynt a’u hysgolion fod ganddynt rywbeth i gynnig i gymdeithas, a’u bod nhw’n gallu llwyddo er eu bod nhw ddim yn yr ysgol am be reswm bynnag. Llwyddais gael effaith ar fywydau disgyblion unigol ond beth oeddwn i wir eisiau oedd cael effaith ehangach, ac felly ymunais â Hafan Cymru.

Rydw i’n teimlo’n angerddol am ddarparu hyfforddiant ar gam-drin domestig. Rydw i’n rhyfeddu at sawl gweithiwr proffesiynol o wahanol sectorau sydd yn dal i ddod i sesiynau hyfforddi gan gredu bod cam-drin domestig yn ymwneud â cholli rheolaeth, neu fod rhai menywod yn mynd am “y math hynny”, neu ei fod yn digwydd mewn ardaloedd economaidd cymdeithasol is yn unig. Mae chwalu’r chwedlau hyn a helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall rheolaeth drwy orfodaeth a sut mae’n cyfyngu cyfle dioddefwyr i wneud penderfyniadau, yn golygu fy mod i’n gallu bod yn obeithiol bydd yna, yn raddol, newid yn rhagdybiaethau’r gymdeithas am gam-drin domestig.

O ran effaith cam-drin domestig ar blant a phobl ifanc, rydw i’r un mor frwdfrydig. Mae’n dristwch imi fod yna gynnydd wedi bod yn nifer y datgeliadau gan blant ar ôl y cyfnod clo. Cysylltodd rhai awdurdodau lleol â ni i ddarparu hyfforddiant i ysgolion ar sut i ymateb i ddatgeliadau gan blant. Fel athro, roeddwn i’n falch bod ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau’r risg i blant. Roedd yr hyfforddiant a darparwyd yn sicrhau bod mwy o blant yn derbyn y cymorth a’r ymateb cywir gan oedolion mewn ysgolion, os ydynt ei angen.

Rydw i hefyd yn angerddol tuag at helpu pobl i ddeall pam maen nhw’n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl, ac wedyn rhoi iddynt offer ymarferol i’w helpu i reoli ei bryder ac iselder, er enghraifft, yn effeithiol. Dyna’r hyn rydym yn ei ddysgu yn ein cyrsiau Iechyd Meddwl.

Mae darparu cwrs ar ymwybyddiaeth o hunanladdiad yn bwnc sy’n arbennig o agos i fy nghalon. Collodd fy nheulu rywun i hunanladdiad ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae siarad am hunanladdiad, yr arwyddion bod rhywun yn teimlo fel lladd ei hun a sut allwn ni leihau’r risg y bydd rhywun yn lladd ei hun yn bwysig. Mae’n golygu fy mod i’n cael y cyfle i helpu atal rhai hunanladdiadau drwy roi’r hyder i bobl eraill i ofyn os ydynt yn meddwl bod rhywun yn teimlo felly.

Yn gyffredinol, efallai bod yn swnio fel ystrydeb, ond rydw i am helpu a gwneud gwahaniaeth i bobl, a gan ddarparu hyfforddiant a darparu cymorth iechyd meddwl yn fy rôl, rydw i’n gallu gwneud hynny a chyrraedd y nifer fwyaf o bobl ag sy’n bosib.