Ym mis Medi, ymddeolodd Prif Weithredwr Stori Siân Morgan o’i swydd. Am y 7 mlynedd diwethaf, Siân fu’r grym y tu ôl i Stori, gan ein harwain gydag angerdd, ymrwymiad a brwdfrydedd diwyro. Mae ei harweinyddiaeth weledigaethol nid yn unig wedi trawsnewid bywydau ond hefyd wedi dod â gobaith a hapusrwydd i unigolion a chymunedau di-ri.
Wrth i ni ddathlu ymddeoliad Siân, rydym yn meddwl am y bywydau dirifedi a gafodd eu cyffwrdd, a’r cerrig milltir anhygoel a gyflawnwyd o dan ei harweiniad. Mae hi wedi gadael ei hôl ar ein sefydliad am byth, ac rydym yn ddiolchgar iawn am ei chyfraniadau anhygoel.
Wrth i ni ffarwelio â Siân, rydym hefyd yn edrych ymlaen at bennod newydd i Stori o dan ein Prif Weithredwr newydd, Andrew Belcher. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at adeiladu ar y sylfaen anhygoel a osodwyd gan Siân, ac yn parhau i ymrwymo i’n cenhadaeth o helpu pobl i ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.