Mae’r mis hon wedi bod yn llawn dathliadau wrth i ni ddathlu 35 mlynedd o gefnogi pobl ledled Cymru a phen-blwydd 1af y sefydliad fel Stori.
Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o gydweithwyr, tenantiaid, cleientiaid, partneriaid a chomisiynwyr yn dod at ei gilydd yr wythnos hon i ddathlu y cerrig milltir hyn.
Mae Stori’n grëwyd i ddarparu gwasanaethau tai a chymorth i oroeswyr cam-drin domestig; rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n tenantiaid, cleientiaid, partneriaid a chomisiynwyr i ddatblygu gwasanaethau mwy arbenigol yn y blynyddoedd i ddod.
Dros y 35 mlynedd diwethaf rydym hefyd wedi datblygu i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau tai, cymorth, cyflogadwyedd, addysg a hyfforddiant i ystod o bobl sy’n wynebu heriau yn eu bywydau. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar hynny yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod; gan barhau i fod yn sefydliad sy’n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn.
Hoffem ddiolch i’r holl denantiaid, cleientiaid, cydweithwyr, partneriaid, cefnogwyr a chomisiynwyr sydd wedi bod yn rhan o’n taith hyd yma. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’n gilydd i alluogi mwy a mwy o bobl i fwynhau dyfodol diogel, cadarnhaol, iach a hapus.