Mae’n bleser gennym gyhoeddi penodiad ein Prif Weithredwr newydd, Andrew Belcher, a fydd yn ymuno â Stori ar 4 Medi 2023.
Dros y 15 mlynedd diwethaf mae Andrew wedi dal swyddi strategol a gweithredol uwch yn y sector tai a chymorth ac wedi arwain sefydliadau sy’n gweithio ledled Cymru gyda’r nod penodol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae gan Andrew brofiad o arwain ‘newid busnes’ o fewn sefydliadau sy’n cynnwys datblygu polisi ac arfer sefydliadol newydd i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth, strategaeth/arfer gorau ac wedi llwyddo i arwain datblygiad diwylliant cadarnhaol, agored a seiliedig ar werthoedd o fewn sefydliadau.
Mae gan Andrew brofiad helaeth o weithio’n agos gyda Byrddau ac Ymddiriedolwyr wrth lywodraethu’r sefydliadau yn effeithiol.
Bydd Andrew yn olynu Siân Morgan, a gyhoeddodd ei bwriad i ymddeol ym mis Medi 2023. Bydd Siân yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Prif Weithredwr ar 4 Medi 2023 ond bydd yn aros gyda Stori tan 30 Medi 2023 mewn rôl gynghori er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn.
Mae profiad, diwylliant ac angerdd Andrew yn ei wneud yn ddelfrydol i alluogi twf Stori yn y dyfodol.
Dyfyniad gan Andrew:
“Rwyf wrth fy modd cael ymuno â Stori fel Prif Weithredwr newydd y sefydliad. Mae’n sicr yn gyfnod cyffrous iawn i ymuno â Stori, gan i’r sefydliad gael ei ailfrandio’n ddiweddar a chynlluniau uchelgeisiol yn cael eu datblygu ar gyfer y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â llawer o denantiaid, cleientiaid, cydweithwyr, comisiynwyr a phartneriaid yn ystod fy wythnosau cyntaf yn y swydd i ddeall rhagor am y gwaith gwych y mae Stori yn ei wneud ar hyn o bryd, ac i drafod sut y gallwn barhau i adeiladu ar hynny dros y blynyddoedd i ddod.”
Ymunwch â ni i estyn croeso cynnes i Andrew fel ein Prif Weithredwr newydd.