Stori yn Lansio Cynllun Cydraddoldeb 2023-2026

Yr wythnos hon rydym yn falch o lansio ein Cynllun Cydraddoldeb 2023-2026.
Yn Stori rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws ein sefydliad ac mae ein cynllun yn ein helpu i osod camau ymarferol i wneud hyn.
Rydym yn edrych ymlaen at rannu rhagor am ein gwaith sy’n ymwneud â chydraddoldeb a rhoi diweddariadau rheolaidd i chi wrth i ni gyflawni eich cynllun dros y tair blynedd nesaf.

Beth yw Cynllun Cydraddoldeb?

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb yn nodi ein hymagwedd at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac yn amlinellu’r ymrwymiadau yr ydym yn eu gwneud dros y tair blynedd nesaf. Mae’n ddogfen ‘fyw’ y gellir ei haddasu yn unol ag anghenion newidiol ein cleientiaid, cydweithwyr a phartneriaid, yn ogystal â’r amgylchedd allanol.

Pam fod gennym ni gynlluniau cydraddoldeb?

Oherwydd mae hyrwyddo cydraddoldeb yn hanfodol i’n ffordd o weithio. mae gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl a hyrwyddo cydraddoldeb yn ganolog i’n gwerthoedd craidd ac yn ein helpu i ddeall daliadau ein staff a’n cleientiaid yn well yn ogystal â chyfrannu’n gadarnhaol at lywodraethu ein sefydliad yn well yn gyffredinol.

Darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb 2023-2026 yn llawn yma.