Hoffech chi helpu i lunio’r ffordd rydym ni’n gweithio?
Hoffech chi ddefnyddio eich profiadau eich hun i helpu eraill?
Hoffech chi rannu eich syniadau a’ch safbwyntiau?
Yna ymunwch â’n Grŵp Llywio Cyfranogiad Cleientiaid!
Yn ein Digwyddiadau Fuel4Life i Gleientiaid rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad ein Grŵp Llywio Cyfranogiad Cleientiaid. Nod y grŵp llywio yw grymuso cleientiaid Stori, drwy greu llwyfan croesawgar a chynhwysol er mwyn i bawb allu cyfrannu at wneud cymuned Stori yn well fyth.
Wrth wraidd y grŵp llywio mae gweledigaeth o undod, lle mae cleientiaid, staff a rhanddeiliaid yn gweithio gyda’i gilydd i ehangu a gwella Gwasanaethau Stori. Mae llwyddiant y Grŵp Llywio Cleientiaid yn dibynnu ar gyfranogiad, sy’n golygu’n bod ni eich angen chi!
Gallwch chi gymryd rhan drwy:
- Ymuno â Ni: Dewch i’n cyfarfod cyntaf lle byddwn yn esbonio pam wnaethom ni greu’r grŵp, trafod beth sy’n bwysig i chi, ac ateb eich cwestiynau. Bydd yn hwyl ac yn anffurfiol.
- Rhannu Eich Syniadau: Rydym ni’n gwerthfawrogi eich mewnbwn. Pan ddown at ein gilydd, byddwn yn eich annog i rannu eich meddyliau, eich awgrymiadau a’ch syniadau am yr hyn yr hoffech ei weld yn ein cymuned.
- Deialog Agored: Rydym ni wedi ymrwymo i feithrin cyfathrebu agored a pharchus. Mae croeso i chi leisio eich pryderon, eich syniadau neu eich awgrymiadau unrhyw adeg.
Mae Maria, un o denantiaid Stori, wedi ein helpu i greu fideo sy’n taflu goleuni ar gyfranogiad cleientiaid a’r rhesymau dros gymryd rhan. Gallwch wylio’r fideo isod.
Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â’ch swyddog cymorth neu’ch swyddog tai. Allwn i ddim aros i chi fod yn rhan o’n pennod nesaf.