Yn Stori, rydym yn byw yn ôl ein gwerthoedd o fod yn Deg, Hyblyg ac Ysbrydoledig, a dyna pam rydym yn falch o gyhoeddi bod ein holl weithwyr yn cael Cyflog Byw Gwirioneddol.
Mae hyn yn golygu y bydd pob aelod o’n tîm ledled Cymru, beth bynnag y bo’u rôl, yn awr yn ennill cyflog sy’n adlewyrchu costau byw gwirioneddol. Yn wahanol i isafswm cyflog y llywodraeth, mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei gyfrifo’n annibynnol yn seiliedig ar gostau byw hanfodol, gan sicrhau bod ein staff yn cael tâl teg am eu gwaith caled.
Trwy ymrwymo i’r Cyflog Byw Gwirioneddol, rydym yn buddsoddi yn ein cydweithwyr, sydd wrth galon Stori. Rydym yn cydnabod bod talu cyflog teg nid yn unig y peth iawn i’w wneud, ond hefyd yn helpu i greu gweithlu mwy brwdfrydig, ymroddedig a chynhyrchiol. Rydym yn gwybod y bydd y cam hwn o fudd nid yn unig i aelodau ein tîm ond i Stori gyfan.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gyflog teg, rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw daliadau cyllid yn y dyfodol yn cyd-fynd â’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae’n hanfodol bod cyllid y llywodraeth yn adlewyrchu’r costau gwirioneddol y mae busnesau’n eu hwynebu wrth ddarparu cyflogau teg i’w gweithwyr. Trwy eiriol dros hyn, ein nod yw creu amgylchedd cynaliadwy lle gall sefydliadau ledled Cymru fforddio rhoi cyflog i’w staff sy’n diwallu costau byw gwirioneddol.
Mae hwn yn gam pwysig a chyffrous i ni ei gymryd, ac edrychwn ymlaen at barhau i adeiladu gweithle sy’n deg, yn gefnogol, ac yn rymusol i bawb.