Mae Stori yn ystyried bod yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yr un mor bwysig â’i gilydd ac yn credu bod gan bawb sy’n cysylltu â’r sefydliad yr hawl i wneud hynny yn y Gymraeg neu Saesneg, pa un bynnag yw eu hiaith ddewisol.
Mae’r polisi hwn yn gweithredu ar y cyd â pholisïau Cyfle Cyfartal, Disgyblu a Chwynion a Recriwtio a Dewis Stori.
Deunydd cyhoeddusrwydd a hysbysebol
Caiff digwyddiadau fydd yn cael eu trefnu gan Stori eu hysbysebu a’u hyrwyddo yn ddwyieithog. Bydd bwciadau ar gyfer digwyddiadau yn Neuadd y Dref (Guildhall) yn cael eu hysbysebu a’u hyrwyddo yn iaith y deunydd fydd wedi ei ddarparu gan y person sy’n dymuno llogi.
Er y bydd Stori yn ceisio sicrhau bod yr holl ddeunyddiau sy’n cael eu hargraffu yn rhai dwyieithog, byddwn yn ystyried effaith hyn ar yr amgylchedd ac mae’n bosib y byddwn yn gwneud penderfyniadau p’un ai a ddylid darparu deunydd ym mha bynnag iaith sy’n addas. Yn yr achos hwn, byddwn yn gofyn i bobl nodi ym mha iaith hoffen nhw dderbyn deunydd.
ABydd pob swydd wag yn cael ei hysbysebu yn ddwyieithog
Pan fydd Stori yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd yn gweithredu yn unol â’i pholisi iaith Gymraeg ei hun a bydd yn annog ei phartneriaid i weithio’n ddwyieithog.
Hysbysiadau i’r wasg
Bydd hysbysiadau Stori i’r wasg a’i gollyngiadau i’r cyfryngau yn cael eu rhyddhau yn unol ag iaith y cyhoeddiad.
Gohebiaeth ysgrifenedig
Mae Stori yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg a byddwn yn cyflwyno’r ateb yn iaith yr ohebiaeth wreiddiol. Pan fydd yr ohebiaeth yn ddwyieithog bydd yr ateb yn cael ei gyflwyno yn newis iaith yr aelod staff.
Gall gohebiaeth ag unigolion neu grwpiau penodol fod yn ddwyieithog neu yn yr iaith y mae Stori yn credu sy’n ddewis iaith y derbynnydd.
Ni fydd gohebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi
Cyfathrebu ar lafar
Bydd ymwelwyr neu unrhyw un sy’n galw gyda’r sefydliad yn cael ei gyfarch/chyfarch yn newis iaith yr aelod staff ond rydym yn croesawu ymholiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae gennym weithdrefnau yn eu lle i sicrhau bod galwadau sy’n cael eu derbyn yn Gymraeg yn cael eu trin yn effeithiol yn Gymraeg.
Caiff y staff eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg a bydd Stori yn annog ac yn cefnogi staff sy’n dymuno gwella eu sgiliau iaith.
Hunaniaeth gorfforaethol
Mae Stori wedi ymrwymo i gynnal ei delwedd gyhoeddus a’i hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys ei chyfeiriad, logo, hunaniaeth weledol ac unrhyw wybodaeth safonol arall sy’n cael ei defnyddio ar ddeunydd ysgrifennu, e-byst, gwefannau, deunyddiau cyhoeddusrwydd, ac ati.
Gwefannau
HBydd gwefannau Stori yn ddwyieithog ac eithrio lle bydd cynnwys wedi ei ddarparu gan asiantaeth allanol. Gall hyn fod yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig, er y bydd cyfranwyr yn cael eu hannog i gyflwyno gwybodaeth yn ddwyieithog.