Cydberthnasau Iach

Yn Stori, rydym yn hyrwyddo cydberthnasau iach gyda’r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw.

Rydym wedi creu rhaglen cydberthnasau iach bwrpasol i’w chyflwyno i bobl ifanc. Rydym yn dysgu pobl ifanc y gall bod mewn perthynas fod yn gyffrous, er ein bod yn gwybod y gall fod yn ddryslyd hefyd, yn enwedig os ydych chi’n hoffi rhywun, ond eu bod yn gwneud pethau nad ydych chi’n gyffyrddus â nhw.

Mae gwahanol bobl yn diffinio cydberthnasau mewn gwahanol ffyrdd, ond er mwyn i berthynas fod yn iach, mae angen rhai cynhwysion allweddol arni:

  • Cyfathrebu da
  • Parch o’r Ddeutu
  • Cyfaddawd
  • Cefnogaeth
  • Preifatrwydd
  • Ffiniau Iechyd

Mae’r rhaglen yn hyrwyddo’r pileri allweddol hyn fel sylfaen cydberthynas iach a’i nod yw dysgu pobl ifanc pa ymddygiadau i gadw llygad amdanynt a sut i ymdopi os bydd rhywun yn ymddwyn mewn ffordd sy’n eu poeni neu’n codi ofn arnynt.

To find out more, please contact us. CY