Llety â Chymorth

Mae Stori wedi bod yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth i blant ac oedolion ledled Cymru ers dros 30 mlynedd.

Rydym yn cefnogi pobl 16 oed a hŷn sydd mewn sefyllfa sy’n ei gwneud hi’n anodd byw’n ddiogel gartref, gallai hyn fod oherwydd cam-drin domestig, problemau iechyd meddwl, defnyddio sylweddau neu heriau eraill. Mae ein Gwasanaethau Llety â Chymorth yn darparu gwasanaeth o safon drwy amrywiaeth hyblyg o wasanaethau ymarferol a therapiwtig i deuluoedd a phobl sengl gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd ac anghenion lluosog. Rydym yn darparu cymorth hyblyg sy’n gysylltiedig â thai i helpu unigolion i fyw’n annibynnol a symud ymlaen i dai amgen addas, fforddiadwy.

Mae pobl sy’n byw yn ein llety yn cael eu cefnogi i fyw’n annibynnol ac i ddod yn rhan o’u cymuned leol. Mae ein model darparu gwasanaethau yn helpu i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl i ffynnu a bod yn annibynnol.

To find out more, please contact us. CY