Pecyn Cymorth Adferiad o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)

Hyd: 10 wythnos, Wyneb yn Wyneb, Sesiynau Grŵp Cynulleidfa: Rhieni plant sydd wedi profi ACEs, Oedolion sydd wedi profi ACEs

Mae Pecyn Cymorth Adferiad o ACEs yn addysgu ac yn hysbysu rhieni am effaith ACEs ar eu plant ac arnyn nhw eu hunain. Mae’r rhaglen yn rhoi arweiniad ar y ffactorau amddiffynnol sy’n helpu i liniaru effaith ACEs, a dulliau ymarferol i unigolion ddatblygu’r gwydnwch sydd ei angen arnynt ac ar eu plant os oes plant ganddynt.

Mae’r pecyn cymorth ACEs yn cwmpasu:

  • Deall byw gydag ACEs
  • Deall straen tocsig a strategaethau i’w reoli
  • Datblygu gwydnwch rhieni
  • Deall ymlyniad
  • Meithrin arddulliau magu plant
  • Rheoli emosiynau
  • Datblygu strategaethau i leihau effaith bosibl ACEs ar blant

To find out more, please contact us. CY