Pecyn Cymorth Adferiad o Gam-drin Domestig

Hyd: 12 wythnos – sesiynau grŵp 1-awr  Cynulleidfa: Goroeswyr cam-drin domestig

Mae’r Pecyn Cymorth Adferiad o Gam-drin Domestig yn helpu cyfranogwyr i ddeall effaith bod wedi profi cam-drin domestig. Mae hyn yn cynnwys archwilio’r modd y cawsant eu hatal rhag gadael perthynas gamdriniol a’r patrymau meddwl a ddatblygwyd ganddynt fel dull o reoli’r risg sy’n gallu eu hatal rhag symud ymlaen a’u helpu i oresgyn hyn.

Mae’r cwrs yn cwmpasu:

  • Cydberthnasau iach
  • Dicter, gwrthdaro a phendantrwydd
  • Ffiniau ac ymddiriedaeth
  • Hunan-barch a chadarnhad
  • Grym hunan-siarad cadarnhaol

To find out more, please contact us. CY