Mae ein Prosiect Pili Pala yn cynnig sesiynau cymorth 1 i 1 a grŵp i blant a phobl ifanc gydag anghenion sy’n cyd-ddigwydd ac anghenion lluosog sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.
Rydym yn eu helpu i reoli eu teimladau a meithrin eu hunanhyder mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma, gan sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel. Nod ein cymorth a’n hymyriadau yw eu helpu i gynnal eu diogelwch, eu llesiant meddyliol a datblygu gwydnwch, gan helpu i leihau effaith y problemau maent yn eu hwynebu.
Mae ein cymorth 1 i 1 yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sy’n addas ar gyfer anghenion plant a phobl ifanc, gan gynnwys:
- Delio ag emosiynau
- Cynllunio diogelwch drwy chwarae rôl
- Ymwybyddiaeth ofalgar
- Adeiladu hyder
- Gwydnwch
- Iechyd rhywiol
- Cydberthnasau iach
- Ymwybyddiaeth o gam-drin domestig
- Grym a rheolaeth
- Dewisiadau a chanlyniadau
- Sgiliau bywyd
Rydym hefyd yn gweithio gyda’u teuluoedd i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y cymorth iawn ar yr adeg iawn; gan roi cyfle i’r teulu cyfan ffynnu.
To find out more, please contact us. CY