Tai a Rennir Pobl Ifanc

Mae Stori yn darparu cartrefi diogel a sefydlog i bobl ifanc 16-25 oed yn ein Prosiectau Llety â Chymorth Tai a Rennir.  

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n ddigartref, pobl ifanc sy’n byw mewn lleoedd anniogel neu bobl ifanc heb denantiaeth. Mae Gweithwyr Cymorth ar y safle yn darparu cymorth dwys i’r bobl ifanc gan eu galluogi i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i fyw’n annibynnol a’u paratoi i reoli tenantiaeth eu hunain.

Mae ein staff hyfforddedig yn darparu cymorth sgiliau bywyd, gan gynnwys:

  • Cyllidebu
  • Rheoli iechyd meddwl
  • Adeiladu cydberthynas iach
  • Mynediad i gyflogaeth ac addysg.

Nod y prosiect yw meithrin hyder a sgiliau’r bobl ifanc a’u galluogi i symud ymlaen i’w heiddo eu hunain.

To find out more, please contact us. CY