Y Rhaglen Feithrin

Hyd: 10 wythnos, sesiynau 2 awr Cynulleidfa: Rhieni sydd am wella neu ddatblygu cydberthynas emosiynol iach gyda'u plentyn.  Gallai hyn fod ar gyfer rhieni y mae cam-drin domestig wedi effeithio ar eu perthynas â'u plentyn.

Mae’r Rhaglen Feithrin yn darparu oedolion gyda’r ddealltwriaeth, y sgiliau a’r gallu i fyw bywydau emosiynol iach. Mae hyn yn cynnwys cymorth i feithrin gwydnwch, defnyddio empathi, gwella hunan-barch a datblygu cydberthnasau cadarnhaol.

Mae’r rhaglen Feithrin yn dysgu pedwar cysyniad fel blociau adeiladu i gynnal cydberthnasau emosiynol iach:

  • Hunanymwybyddiaeth
  • Disgwyliadau priodol
  • Empathi
  • Disgyblaeth gadarnhaol

Trwy’r cwrs, defnyddir y pedair syniadaeth i ddysgu am gydberthnasau emosiynol iach, a phwysigrwydd ffurfio cydberthnasau emosiynol iach rhwng rhiant a phlentyn.

To find out more, please contact us. CY