Mae ein Prosiect Sbectrwm yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, gan ddysgu plant am berthnasau iach. Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion i’w helpu i ddeall yr hyn sydd yn iawn a’r hyn nad yw’n iawn a chodi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
Os hoffech wybod mwy, mae yna lawer o wybodaeth ac adnoddau i ysgolion a chymunedau ar ein gwefan.