Rydym yn gweithio o graidd moesegol cryf ar draws popeth a wnawn a gyda mewnbwn gan y bobl rydym yn eu cefnogi, partneriaid a’n tîm ein hunain, rydym wedi datblygu polisïau cadarn i sicrhau ein bod ni bob amser yn gwneud y pethau cywir i bobl a phlaned. Maent yn cwmpasu pedwar maes allweddol:
Cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni – rydym yn canolbwyntio yn barhaol ar leihau ein hôl troed, blwyddyn ar ôl blwyddyn, gan wneud ein tai mor effeithlon o ran gwres â phosib ac yn ymgysylltu â chynlluniau i yrru hyn ymlaen drwy ein gweithleoedd.
Iechyd a Diogelwch – mae’n hanfodol bod pawb yn teimlo bod eu hiechyd a diogelwch yn bwysig i ni, boed ydynt yn gweithio i Stori, yn cael eu cefnogi gennym, neu yn dod i gysylltiad â ni mewn ffyrdd eraill. Mae ein polisi iechyd a diogelwch yn cwmpasu yn gynhwysfawr ystyriaethau meddyliol a chorfforol.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth – rydym yn sicrhau ein bod ni’n trin yn deg pawb rydym yn dod i gysylltiad â hwy, i mewn a’r tu allan i Stori.
Iaith – Rydym yn ymrwymo i ddarparu ein gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl.