Mae ein Gwasanaeth Cymorth lle bo’r Angen yn darparu cymorth i unigolion sy’n cael anawsterau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a’u galluogi i gynnal contract eu tenantiaeth yn llwyddiannus.
Mae Cymorth lle bo’r Angen yn helpu cleientiaid sydd ag amrywiaeth o anghenion, a allai fod yn bobl sydd wedi profi cam-drin domestig, problemau iechyd meddwl, defnyddio sylweddau neu sy’n wynebu heriau eraill mewn bywyd. Rydym yn gwybod bod anghenion pawb yn wahanol, dyna pam mae’r cymorth a gynigir gennym yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i deilwra’n llawn i ddiwallu anghenion pob unigolyn.
Mae ein gweithwyr cymorth yn gweithio gyda chleientiaid i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt a’u helpu i greu cynllun ar gyfer dyfodol mwy disglair.
Gall ein tîm helpu gydag:
- Ymsefydlu mewn cartref newydd
- Trin arian a chyllidebu
- Gwneud yn siŵr bod eu cartref yn saff a diogel
- Dysgu byw ar eu pen eu hunain
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol
- Dod o hyd i weithgareddau sy’n bwysig iddyn nhw
- Cadw’n iach ac yn hapus
Rydym hefyd am i bobl deimlo’n gartrefol yn eu cymuned, felly rydym yn eu rhoi mewn cysylltiad â grwpiau, mudiadau ac adnoddau sy’n gallu eu helpu i ffynnu.
To find out more, please contact us. CY