Mae ein Rheolwr Llywodraethu a Sicrwydd ein hun, Fiona Jenkins, ar y rhestr fer ar gyfer “Hyrwyddwr Llywodraethu’r Flwyddyn” yng ngwobrau mawreddog y Sefydliad Llywodraethu Siartredig 2021!
Mae’r wobr hon yn cydnabod yr aelodau hynny o’r gymuned lywodraethu sy’n haeddu’r teitl ‘hyrwyddwr’. Maen nhw’n arwain trwy esiampl, gan eirioli a dangos trwy eu hymddygiadau werth llywodraethu da. Mae hefyd ganddynt agwedd personol gan ddod a thalentau newydd i mewn, eu meithrin a’u helpu i ffynnu.