Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni Gwanwyn 2025

Yn Stori, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi a gwasanaethau sy’n adlewyrchiad gwirioneddol o anghenion y bobl rydym yn eu cefnogi. Un o’r ffyrdd pwysicaf yr ydym yn gwneud hyn yw drwy wrando’n astud ar eich adborth gan fod eich profiadau yn ein helpu i dyfu, gwella a gwneud newidiadau ystyrlon.

Y gwanwyn hwn, rydym wedi bod yn siarad yn uniongyrchol â thenantiaid am eu cartrefi, beth sy’n gweithio, beth sydd ddim, a ble gallwn ni wneud yn well. Mae’r sgyrsiau hyn wedi bod yn hynod werthfawr, ac rydym eisoes yn gweithredu mewn ymateb i’r hyn rydych chi wedi’i rannu.

Dyma ddim ond rhai o’r pethau a glywsom, a sut rydym yn ymateb:

“Dwi eisiau paentio’r waliau yn lliw dwi’n ei ddewis, a gosod carped dwi’n ei hoffi.”

Rydym yn deall pa mor bwysig yw gwneud i’ch cartref deimlo fel eich cartref chi eich hun. Mae pob cais am baentio a lloriau’n cael eu hystyried. Boed yn sblash o liw neu’n garped sy’n teimlo’n iawn dan draed, rydym yn eich annog i siarad â’ch gweithiwr cymorth neu’ch swyddog tai i weld beth sy’n bosibl.

“Mae fy nhŷ yn mynd yn oer yn y gaeaf.”

Rydym yn gwybod fod cadw’n gynnes a chyfforddus yn hanfodol. Mewn ymateb i adborth fel hyn, rydym yn gweithredu:

· Rydym yn gweithio ar draws ein heiddo i gyd i wella effeithlonrwydd ynni a chynyddu sgoriau EPC (Tystysgrif Perfformiad Ynni).

· O Ebrill 25, rydym yn lansio Llwybrau Ynni, cynllun strategol a fydd yn ein helpu i fapio’r gwelliannau sydd eu hangen – er mwyn i ni allu darparu cartrefi cynhesach, mwy ynni-effeithlon.

Rhoi’r Wybodaeth Ddiweddaraf i Chi

Rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu a bod yn dryloyw. Dyna pam y byddwn yn parhau i rannu diweddariadau ar beth mae tenantiaid a chleientiaid yn ei ddweud wrthym a pha gamau rydym yn eu cymryd mewn ymateb.

Mae pob llais yn cyfrif. Felly os oes gennych rywbeth i’w rannu, siaradwch â’ch gweithiwr cymorth neu’ch swyddog tai. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i adeiladu cartrefi a gwasanaethau gwell, wedi’u llywio gan y bobl sy’n byw ynddynt ac yn eu defnyddio.