Ty Coed yn cynnig lloches hygyrch i deuluoedd sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig ym Mhowys.

Y mis Tachwedd hwn rydym yn hynod o falch i roi allweddi Tŷ Coed, ein byngalo ddwy ystafell wely newydd, i Ganolfan Argyfwng Teulu Maldwyn. Roedd hwn yn ddiwrnod pwysig i ni gan mai dyma’r eiddo cyntaf i ni ei ddatblygu ers dros ugain mlynedd ac mae’n gosod y safon am y mathau a’r ansawdd o eiddo rydym am ei ddatblygu yn y dyfodol. Agorwyd yr eiddo yn swyddogol gan Craig Williams, AS dros Sir Drefaldwyn ac ymunodd partneriaid allweddol o Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a’r Heddlu.

Ni ellir pwysleisio gormod yr effaith gadarnhaol y bydd y gwasanaeth hwn yn ei gael ar ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth ddomestig a fydd yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn lleol.

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

 

Mae Ty Coed yn gosod y meincnod ar gyfer cyfleuster diogel o ansawdd uchel i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig ac mi fydd yn ased allweddol mewn cynnig ymateb effeithiol i rwystro, a chefnogi goroeswyr camdriniaeth ddomestig ym Mhowys. Mae lleoliad y byngalo yn golygu ein bod ni’n gallu cwrdd ag anghenion dioddefwyr a’u plant, gan eu galluogi nhw i aros yn agos at eu gwaith, rhwydweithiau cymorth ac ysgolion eu plant. Mae’r cynllun newydd hefyd yn golygu ei fod yn hygyrch i bobl sydd ag anableddau neu broblemau symudedd.

Mae ein teulu cyntaf yn barod i symud i mewn ac rydyn ni’n siŵr y byddan nhw wrth eu boddau gyda safon uchel iawn y lle ble y byddant yn byw tra’n cael mynediad at wasanaethau cymorth camdriniaeth ddomestig arbenigol CATM.

Jane Stephens, Rheolwr Cyffredinol, Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn

 

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o Hafan Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Powys ac Argyfwng Teulu Maldwyn yn cydweithio yn effeithiol. Mae’n dangos arfer gorau a all gefnogi datblygiad prosiectau yn y dyfodol.

 

Ty Coed